Anglesey Logo
Housing Support Grant: Your Service - Your Say 2022/2023
0%
 
Yn yr holiadur hwn, fe welwch y termau 'cefnogaeth ar wasgar' a 'llety â chefnogaeth'.

Darllenwch y diffiniadau cyn ateb yr holiadur.

Cefnogaeth ar wasgar

Mae cefnogaeth ar wasgar yn fath o gymorth hyblyg sy'n ymwneud â thai ar gyfer unrhyw berson dros 16 oed i gael mynediad at, cynnal a rheoli llety ei hunain.

Gellir ei ddarparu ar draws yr holl ddeiliadaethau tai ac felly gellir ei dderbyn os ydych yn byw mewn llety sy’n eiddo i’r Cyngor neu Gymdeithas Tai, neu os ydych yn rhentu gan landlord preifat, neu os ydych yn berchennog tŷ ac angen cymorth i fyw mor annibynnol â phosibl, mewn unrhyw un o'r mathau hyn o eiddo.

Llety a chefnogaeth

Llety â chefnogaeth yw lle mae pobl yn byw mewn eiddo dynodedig fel tenant ond hefyd yn cael rhywfaint o gymorth i fyw yno. Gall llety â chefnogaeth fod yn byw mewn fflat ar eich pen eich hun, yn byw mewn tŷ a rennir, neu’n byw mewn rhwydwaith o fflatiau fel hostel neu loches lle mae pawb yn cael cymorth.

Dyma rai enghreifftiau o’r math o gefnogaeth y gallech fod wedi’i dderbyn gan eich Darparwr Grant Cymorth Tai:
  • Cefnogaeth gyda sgiliau bywyd a sgiliau byw’n annibynnol
  • Cefnogaeth gyda dyledion rhent/morgais/cyfleustodau
  • Helpu defnyddwyr gwasanaeth i gael llety
  • Cyngor a chyswllt cyffredinol
  • Cefnogaeth a chyngor mewn perthynas â materion yn ymwneud â diogelwch personol a chymunedol
  • Hwyluso cyswllt â sefydliadau cymunedol
  • Helpu gyda rheoli cyllid, cyllidebu a chael budd-daliadau lles lle bo hynny’n berthnasol
  • Datblygu sgiliau cymdeithasol
  • Cefnogaeth i gael addysg a hyfforddiant a dod o hyd i waith
  • Cyngor a chefnogaeth i fyw bywydau iach ac egnïol