Arolwg Cyflogaeth Gweithwyr Hŷn (50+)

 

Mae eich profiad yn bwysig. Nod prosiect Cymru Iach ar Waith yw ceisio cael dealltwriaeth fwy eglur o'r hyn sy'n helpu pobl 50 a throsodd i gadw'n iach, wedi'u cefnogi ac yn ymgysylltiedig yn y gwaith, a beth sy'n gallu gwneud parhau i fod mewn cyflogaeth yn fwy anodd. Drwy rannu eich safbwyntiau, byddwch yn helpu i adnabod newidiadau ymarferol, cefnogaeth yn y gweithle a gwasanaethau a allai wneud gwahaniaeth ystyrlon nawr ac yn y dyfodol. Atebwch y cwestiynau canlynol os gwelwch yn dda yn seiliedig ar eich profiad eich hun, gan ddewis yr opsiynau sy'n adlewyrchu eich amgylchiadau orau, ac ychwanegu sylwadau pan wahoddir chi i wneud hynny. 

Does dim atebion cywir nac anghywir, ac mae pob ymateb yn ddienw. Diolch am eich amser.

1. Ystod oedran: *

 

2. Sector: *

 

3. Maint y sefydliad: *

 

4. Beth sy'n eich helpu i barhau i fod yn iach, yn ymgysylltiedig ac yn cael eich cymell yn eich gwaith? Dewiswch bob un sy'n berthnasol: *

 

5. Pa ffactorau allai ei gwneud yn fwy anodd i barhau i weithio? Dewiswch bob un sy'n berthnasol: *

 

6. Fel gweithiwr 50+ oed, pa agweddau o'r gwaith sydd wedi cael yr effaith fwyaf cadarnhaol a mwyaf negyddol ar eich iechyd a lles?

 

7. Gan edrych ymlaen dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, beth allai eich helpu i barhau i weithio mewn ffordd sy'n addas i chi? Dewiswch bob un sy'n berthnasol: *

 

8. Pa mor hawdd yw hi i drafod anghenion sy'n newid yn y gwaith? *

 

9. Pa ffurf ar hyblygrwydd neu addasu swydd sy'n fwyaf defnyddiol? Dewiswch bob un sy'n berthnasol: *

 

10. Os yw iechyd yn effeithio ar eich gwaith, pa gefnogaeth fyddai'n eich helpu i barhau yn y gwaith ac i wneud eich gwaith yn dda? Dewiswch bob un sy'n berthnasol: *

 

11. Beth sy'n ei gwneud hi'n haws neu'n fwy anodd i siarad gyda chyflogwr neu reolwr llinell am newid mewn iechyd neu les?

 

12. Beth sy'n achosi straen yn y gwaith i bobl ar y cam hwn o'u bywyd gwaith? Beth fyddai'n helpu i'w leihau? 

 

13. A oes yna agweddau o'ch gwaith neu'ch amgylchiadau gweithio sy'n effeithio eich gallu i weithio'n dda neu i barhau yn y rôl?  A yw'r rhain wedi newid dros amser? Pa newidiadau ymarferol allai helpu?

 

14. Beth sy'n gwneud gweithio'n hyblyg yn hawdd i ofyn amdano a'i ddefnyddio'n ymarferol? Dewiswch bob un sy'n berthnasol: *

 

15. Beth sy'n gwneud gweithio'n hyblyg yn anodd?

*

 

16. Beth allai cyflogwyr ei wneud yn rhesymol er mwyn ei gwneud hi'n haws cyfuno gweithio a chyfrifoldebau gofalu? 

 

17. Sut beth yw cefnogaeth dda gan gyflogwr a newidiadau yn y gwaith? Dewiswch bob un sy'n berthnasol: *

 

18. Sut beth yw cefnogaeth gan gyflogwr pan mae rhywun yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod yn sâl? Dewiswch bob un sy'n berthnasol: *

 

19. Beth fyddai'n ei gwneud hi'n haws i gael y cymorth neu'r newidiadau rydych eu hangen yn y gwaith?

 

20. Sut mae newidiadau mewn technoleg wedi effeithio ar eich gwaith? *

 

21. Yn dilyn Q20, os yw'n berthnasol, dewiswch bob un sy'n gymwys: *

 

22. Pa gefnogaeth ymarferol gan Gymru Iach ar Waith fyddai'n fwyaf defnyddiol? Dewiswch bob un sy'n berthnasol: *

 

23. Oes yna unrhyw sylwadau eraill neu adborth y byddech yn hoffi ei roi?

 

Diolch i chi eto am eich amser.