Cefndir
Mae'r Gronfa Gwaddol Ieuenctid (YEF) wedi comisiynu Cordis Bright i gynnal dau adolygiad ategol sydd â'r nod o gryfhau'r sail dystiolaeth ar sut i gefnogi plant a theuluoedd yn well.
Mae'r adolygiad cyntaf yn canolbwyntio ar y rhaglenni rhianta a therapi teulu a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod cryn amrywiaeth o ran pa raglenni seiliedig ar dystiolaeth sydd ar waith ym mha ardaloedd lleol, a lefel yr effaith sy'n cael ei chyflawni.
Mae'r ail adolygiad yn archwilio rôl y system ofal o ran amddiffyn plant rhag bod yn rhan o drais, fel dioddefwyr a’r rhai sy'n troseddu. Gwyddom fod plant mewn gofal yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan drais a chamfanteisio, a bod cyfraddau llawer uwch ohonyn nhw'n rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid na'u cyfoedion. Fodd bynnag, ychydig iawn o dystiolaeth gyfredol sy’n bodoli ar y ffactorau a'r llwybrau yn y system gofal sy'n gallu lleihau neu waethygu'r risg hon.
Cyn argymell unrhyw gamau pellach, hoffai YEF feithrin dealltwriaeth fwy cadarn o'r canlynol:
i) y sefyllfa leol mewn perthynas â chomisiynu a chyflwyno rhaglenni rhianta a therapi teulu, a
ii) yr arferion, y polisïau a'r ymatebion ar lefel system sy'n llywio canlyniadau ar gyfer plant mewn gofal.
Gyda hyn mewn golwg, mae YEF wedi gweithio gyda Cordis Bright i ddatblygu'r arolwg hwn.
Mae'r arolwg yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am ba raglenni rhianta a therapi teulu seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael eu cyflwyno neu eu comisiynu gan eich awdurdod lleol. Mae hefyd yn cynnwys ychydig o gwestiynau am ffactorau risg ar gyfer trais, strategaethau lleol, rhwystrau system a'r bylchau mewn cymorth i blant mewn gofal.
Trwy'r arolwg hwn, rydym yn awyddus i gael darlun manwl iawn o'r ddarpariaeth leol, felly byddem yn ddiolchgar pe gallech annog cymaint o bobl â phosibl yn eich awdurdod lleol i lenwi'r arolwg hwn. Mae hyn yn cynnwys Cyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Cynorthwyol, rheolwyr gwasanaeth, comisiynwyr ac ymarferwyr.
Bydd eich ymatebion yn ein helpu i ddatblygu dangosfwrdd sy'n dangos darpariaeth rhaglenni rhianta a therapi teulu ledled Cymru a Lloegr. Yna, byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon fel y gallwch (a) fapio pa wasanaethau sydd ar waith ledled eich ardal leol; (b) nodi'r bylchau mewn data a darpariaeth; a (c) gweld beth sy'n cael ei ddarparu mewn ardaloedd eraill.