Ymgynghoriad ar ddiwygiadau i’r safonau addysg a hyfforddiant

1. Cyflwyniad

0%

Rôl statudol yr HCPC ydy diogelu’r cyhoedd drwy reoleiddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn hyrwyddo arfer proffesiynol o ansawdd uchel drwy:

  •  osod safonau ar gyfer addysg, hyfforddiant ac ymarfer;
  • cymeradwyo rhaglenni addysg;
  • cadw cofrestr o weithwyr proffesiynol sydd yn bodloni’n safonau; a
  • gweithredu pan nad ydy gweithwyr proffesiynol yn bodloni ein safonau. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ein rhanddeiliaid ar y safonau addysg a hyfforddiant (SETau) diwygiedig drafft. Mae'r safonau addysg a hyfforddiant yn rhan graidd o'n fframwaith rheoleiddio ac yn nodi sut mae'n rhaid i ddarparwyr addysg baratoi dysgwyr ar gyfer ymarfer proffesiynol. Maent yn sicrhau bod rhaglenni wedi'u trefnu'n iawn, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn cyd-fynd â diogelu'r cyhoedd. 

Mae'r safonau addysg a hyfforddiant yn bwysig i ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys darparwyr addysg, dysgwyr, defnyddwyr gwasanaethau, cyrff proffesiynol a chyflogwyr. Maent hefyd yn hanfodol i sut mae'r HCPC yn cyflawni ei waith fel rheoleiddiwr, yn enwedig wrth gymeradwyo a monitro rhaglenni addysg a hyfforddiant i sicrhau bod y rhai sy'n cwblhau rhaglenni yn bodloni ein gofynion ar gyfer cofrestru.  

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar Chwefror 16, 2026.

Diolch am gymryd rhan!