Skip to main content
#ByddwchynGaredigAr-lein Ysgolion Sir y Fflint
Addewid #ByddwchynGaredigAr-lein ar gyfer Ysgolion Sir y Fflint
There was an error on your page. Please correct any required fields and submit again.
Go to the first error
Er mwyn ymgymryd ag addewid #ByddwchynGaredigAr-lein ticiwch BOB UN O’R PUM blwch addewid isod.
Rydym yn addo y byddwn yn …
annog empathi a pharch ymhlith ein holl ddysgwyr, staff a rhieni
defnyddio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn effeithiol er mwyn i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gyfrannu’n gadarnhaol i’r bydoedd digidol
s
codi ymwybyddiaeth ynglŷn â pholisïau Herio Bwlio a Defnydd Derbyniol o dechnolegau ein hysgol ymysg cymuned yr ysgol gyfan
ymateb i unrhyw gwynion yn ymwneud â bwlio a/neu aflonyddu mewn dull effeithiol ac amserol
monitro ac adolygu sut y rhoddir gwybod am ddigwyddiadau yn ymwneud â bwlio/seiberfwlio yn ein hysgol a chymryd camau i wella prosesau a chanlyniadau
Enw eich ysgol a manylion cyswllt:
Ysgol
Pennaeth
E-bost
Rhif ffôn
Cod post
Dyddiad yr addewid
Hysbysiad Preifatrwydd
Yn y ffurflen hon mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn am ychydig o fanylion personol fel enw, cyfeiriad, e-bost ayb.
Fe fydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw’n ddiogel am oes ymgyrch #ByddwchynGaredigAr-lein yn ogystal â dwy flynedd ychwanegol a bydd yn cael ei defnyddio i ddibenion gwirio eich addewid a chadw cofnod o addewidion ysgolion. Lle rydych yn caniatáu hynny bydd y wybodaeth yr ydych yn ei darparu hefyd yn cael ei defnyddio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn ag ymgyrch #ByddwchynGaredigAr-lein a chynnig rhagor o gyfleoedd i chi i ddod yn rhan o hyn yn wirfoddol.
Gellir gweld mwy o wybodaeth ar beth i’w ddisgwyl pan fo Cyngor Sir y Fflint yn casglu eich data personol ar dudalen yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.
Drwy roi tic yn y blwch hwn rwy’n rhoi caniatâd i’r Cyngor gasglu a storio’r wybodaeth bersonol yn y ffurflen hon ar gyfer y dibenion a restrir uchod. Rwy’n deall y gallaf ofyn am i fy manylion gael eu tynnu o’ch cofnodion drwy anfon e-bost at bekindonline@flintshire.gov.uk
Rwy’n rhoi caniatâd
Fe hoffwn dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â #ByddwchynGaredigAr-lein a chael cynnig cyfleoedd pellach i wirfoddoli i ddod yn rhan o hyn.
Mae’n bosibl y bydd y Cyngor yn defnyddio enw eich ysgol i hyrwyddo ymgyrch #ByddwchynGaredigAr-lein.
Gwiriwch y blychau isod lle rydych yn rhoi caniatâd i’r Cyngor i ddefnyddio enw eich ysgol yn y modd hwn. Fe allwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost at bekindonline@flintshire.gov.uk
Rwy’n rhoi caniatâd i enw’r ysgol gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor fel rhan o restr o ysgolion lleol sydd wedi gwneud addewid ar gyfer yr ymgyrch #ByddwchynGaredigAr-lein.
Rwy’n rhoi caniatâd i enw’r ysgol gael ei ddefnyddio mewn deunydd cysylltiadau cyhoeddus e.e. negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, datganiadau i’r wasg, newyddlenni ar-lein, gwefan y Cyngor, posteri, taflenni ayb.