Bwriad y fenter hon yw ceisio mynd i’r afael â dau fater allweddol sef “gwastraff bwyd” a “thlodi bwyd”
Prosiect aml-asiantaeth yw hwn rhwng y Cyngor, y bwrdd iechyd, y 3ydd Sector, CAB a sefydliadau eraill.
Bydd Bwyd Da Môn ar agor i unrhyw un yn y gymuned ymuno ynddo a does dim meini prawf ar gyfer bod yn gymwys a gall unrhyw un elwa o’r bwyd o safon uchel am bris isel y bydd yn ei ddarparu. Mae wedi’i gytuno o’r dechrau nad yw’r prosiect eisiau creu ‘stigma’ ar gyfer pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth felly ni fydd yn rhaglen sy’n seiliedig ar fodd ond bydd yn agored i bawb beth bynnag eu hincwm, amgylchiadau neu leoliad.
Mae’r prosiect hefyd angen y sefydlogrwydd ariannol gan unigolion sy’n gallu helpu i dalu dros y rhai hynny sydd mewn angen.
Yn ymarferol, bydd pobl yn talu £5 yr wythnos ac yn derbyn gwerth £20-25 o fwyd sy’n cynnwys amrywiaeth o gig ffres / wedi rhewi, bwyd sych neu mewn tun, llysiau a ffrwythau ffres ynghyd ag eitemau eraill.
Mae angen eich adborth arnom o ran a fyddech yn ystyried optio i mewn i’r prosiect hwn fel aelod os gwelwch yn dda. Byddai dod yn aelod o’r prosiect yn golygu talu £5 yr wythnos yn gyfnewid am werth £20-£25 o fwyd bob wythnos.
Bydd eich ymateb yn cael ei defnyddio fel rhan o ymarfer casglu data er mwyn i ni allu casglu cymaint o wybodaeth ansoddol a meintiol a phosibl er mwyn gallu llunio’r rhaglen Bwyd Da Môn.