Diolch i chi am roi o’ch amser i ymateb i’r arolwg hwn. Dylai gymryd 5 munud i’w lenwi. Gallwch gadw eich atebion a dychwelyd i’r arolwg rywbryd eto.

 

Mae Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr yn gweithredu’n annibynnol ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r llysoedd i hyrwyddo hawliau dioddefwyr a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn gywir gan y system cyfiawnder troseddol.

 

Mae’n hollbwysig ein bod yn clywed gan ddioddefwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol am eu profiadau o adrodd a’r daith at ddatrys. Dyma eich cyfle i ddweud eich dweud. Drwy rannu eich adborth, gall y Comisiynydd Dioddefwyr helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn y dyfodol yn cael y cymorth a’r canlyniadau cyfiawnder sydd eu hangen arnynt. Hoffem glywed gan unrhyw un sydd wedi dioddef Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. 

 

Byddwn yn dadansoddi’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ac yn cyhoeddi adroddiad ohoni, a fydd yn ychwanegu at yr wybodaeth ymchwil am brofiadau’r rhai sy’n dioddef Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae’r arolwg yn ddienw, ond ar y diwedd gofynnwn i chi roi caniatâd i ni gysylltu â chi drwy e-bost i drefnu cyfweliad dilynol i siarad am eich profiad o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn fanylach. Byddwch yn ddienw yn ein hadroddiadau (ni fydd modd eich adnabod ohonynt), p’un ai ydych chi’n dewis rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni ar ddiwedd y gyfres hon o gwestiynau ai peidio.

 

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd hwn sy’n egluro sut mae Swyddfa'r Comisiynydd Dioddefwyr yn casglu, defnyddio a rhannu eich gwybodaeth bersonol.

 

Rydym yn awyddus i glywed gan bawb sydd am lenwi’r arolwg hwn. Os ydych chi’n cefnogi rhywun sydd wedi bod yn ddioddefwr a fyddai’n hoffi ymateb ond sydd ddim yn gallu gwneud hynny oherwydd iaith, oedran, diffyg mynediad i’r rhyngrwyd neu rwystrau eraill, mae croeso i chi lenwi’r arolwg gyda nhw. Neu, gallwch gysylltu â ni yn victims.commissioner@victimscommissioner.org.uk os hoffech chi wneud cais am gael yr arolwg mewn fformat gwahanol. Ar ddiwedd yr arolwg, rydym yn gofyn cwestiwn am y rhwystrau hyn. Bydd eich atebion yn ein helpu i wella arolygon yn y dyfodol.

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn victims.commissioner@victimscommissioner.org.uk