Arolwg – Cyfieithu yng Nghymru
Mae cwmni ymchwil Arad yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i gasglu gwybodaeth am y rhai sy’n cyfieithu yng Nghymru.
Mae eich barn yn hollbwysig i’n helpu i ddeall y proffesiwn yn well a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae’r arolwg yn ddienw, oni bai eich bod yn dewis rhannu eich manylion cyswllt gyda ni ac ni fyddwn yn pasio ymatebion unigolion ymlaen at Gymdeithas Gyfieithwyr Cymru, dim ond y canlyniadau yn eu cyfanrwydd. Ni fydd modd eich adnabod mewn unrhyw adroddiad. Cewch rhagor o fanylion yma am sut rydym yn defnyddio eich data.
Ar ddiwedd yr arolwg, mae cyfle i chi gymryd rhan mewn raffl i ennill taleb gwerth £150 i wario gyda Welsh Rarebits. I gymryd rhan, bydd angen i chi rannu eich enw a'ch manylion cyswllt, ond ar dudalen ar wahân fel na fydd eich enw yn cael ei gysylltu â'ch atebion.
Os hoffech rhagor o wybodaeth, neu os byddai'n well gennych ei gwblhau dros y ffôn, cysylltwch â Sioned Lewis, sioned@arad.cymru
Un o gyfres o holiaduron yw hwn. Mae’r holiadur penodol hwn yn canolbwyntio ar brofiadau unigolion sy’n cyfieithu, boed yn llawrydd, yn gweithio i gwmni neu’n wirfoddol/di-dâl. Mae holiaduron eraill ar gael ar gyfer cwmnïau ac sefydliadau.