Arolwg Cyfieithwyr (Cwmnïau)

1. Cyflwyniad

0%

Arolwg – Cyfieithu yng Nghymru

 

Mae cwmni ymchwil Arad yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i gasglu gwybodaeth am y rhai sy’n cyfieithu yng Nghymru.

 

Mae eich barn yn hollbwysig i’n helpu i ddeall y proffesiwn yn well a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Mae’r arolwg yn ddienw, oni bai eich bod yn dewis rhannu eich manylion cyswllt gyda ni ac ni fyddwn yn pasio ymatebion unigolion ymlaen at Gymdeithas Gyfieithwyr Cymru, dim ond y canlyniadau yn eu cyfanrwydd. Ni fydd modd eich adnabod mewn unrhyw adroddiad. Cewch rhagor o fanylion yma am sut rydym yn defnyddio eich data.

 

Os hoffech rhagor o wybodaeth, neu os byddai'n well gennych ei gwblhau dros y ffôn, cysylltwch â Sioned Lewis, sioned@arad.cymru

 

Un o gyfres o holiaduron yw hwn. Mae’r holiadur penodol hwn yn canolbwyntio ar brofiadau cwmnïau. Mae holiaduron eraill ar gael ar gyfer sefydliadau ac unigolion, a bydd modd cael mynediad i'r holiadur i unigolion drwy ddolen ar ddiwedd yr holiadur hwn. Ar ddiwedd yr arolwg i unigolion, mae cyfle i gymryd rhan mewn raffl i ennill taleb gwerth £150 i wario gyda Welsh Rarebits.

Note: This survey is being carried out by Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, the association of Welsh translators and interpreters. It includes questions on the number of staff involved in (Welsh) translation, and the percentage of your company’s work that relates to translation into or from Welsh – all with the aim of helping to estimate the size of the translation sector in Wales.

 

We welcome your interest. If you would like a copy of the questions in English, or if you’d prefer to arrange a quick 5-minute call to complete the survey at a time that suits you, please email Sioned Lewis at sioned@arad.wales.