Cymwysterau Cymru - Arolwg ar gyfer rhieni ac athrawon/Uwch Dîm Arweinyddiaeth

1. Arolwg ar gyfer rhieni ac athrawon/Uwch dim arweinyddiaeth

0%

Mae Cymwysterau Cymru wedi gofyn i Alma Economics gynnal astudiaeth annibynnol o newidiadau sy’n cael eu gwneud i gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed. Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn yn edrych ar sut mae’r newidiadau’n cael eu cyflwyno mewn ysgolion, a pha wahaniaethau maen nhw’n eu gwneud. Gallwch ddarllen mwy am yr astudiaeth yma.  

Yn rhan o’r gwaith hwn, rydym eisiau clywed gan unrhyw un sy’n gysylltiedig – gan gynnwys arweinwyr ysgolion, athrawon, dysgwyr, a rhieni/gofalwyr. Y cam cyntaf yw arolwg byr i’n helpu i ddeall sut mae pobl yn clywed am y newidiadau, sut maen nhw’n gysylltiedig, a beth yw eu barn amdanynt.   

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol a dienw. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil a sut byddwn yn defnyddio’ch data ar gael yma. Gallwch atal yr arolwg ar unrhyw adeg, ond ni allwn ddileu eich atebion oherwydd ni fyddwn yn gwybod eu bod yn eiddo i chi. Bydd eich atebion yn cael eu cadw wrth i chi fynd ymlaen.

Bydd yr arolwg yn cymryd 10 munud ar y mwyaf, a bydd eich safbwyntiau’n ein helpu i ddeall effeithiau’r diwygiadau i gymwysterau.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rheolwr y Prosiect, Caitlin Allen, ar caitlin.allen@almaeconomics.com 

Bydd yr arolwg yn cau ar y 30 Ionawr 2026, am 11.59pm.   

 

 

1. Rwyf wedi darllen a deall y telerau cymryd rhan a amlinellir uchod. *