Rôl a Chydnabyddiaeth Ariannol Cynghorwyr yng Nghymru: Arolwg o gynghorwyr 2021

1. Adran 1: Cefndir

0%
Nod yr arolwg hwn yw casglu gwybodaeth a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall eich profiadau o fod yn gynghorydd yng Nghymru. Hoffem ddiolch ichi am roi o'ch amser i lenwi’r arolwg hwn. Bydd eich ymatebion yn werthfawr o ran cynyddu amrywiaeth y bobl sydd am sefyll am swydd etholedig. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol, a bydd unrhyw ganfyddiadau a adroddir yn ddienw felly ni fyddwch yn cael eich adnabod. Bydd eich hunaniaeth yn gudd. Pan ddefnyddir hunaniaeth gudd mewn arolygon, ni fydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy, megis math o borwr a fersiwn y porwr, cyfeiriad IP rhyngrwyd, system weithredu, neu gyfeiriad e-bost, yn cael ei storio gyda'r ateb. Bydd hyn yn diogelu hunaniaeth yr ymatebydd.