Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn eich gwahodd i ddweud wrthym ni am y gwasanaethau fferylliaeth yn eich ardal. Nod hyn yw helpu'r bwrdd iechyd i gynllunio gwasanaethau ar gyfer ein cleifion nawr ac yn y dyfodol, er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau’n diwallu eich anghenion, gan ddefnyddio proses o’r enw ‘asesiad o anghenion fferyllol’.
Bydd eich atebion yn helpu'r bwrdd iechyd i gael gwybod p’un a oes unrhyw fylchau yn y gwasanaeth ai peidio, er enghraifft yr angen am fferyllfa mewn ardal benodol, neu’r angen i ragor o fferyllfeydd ddarparu gwasanaeth penodol.
Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn edrych ar y gwasanaeth presgripsiynau mae rhai meddygfeydd yn ei ddarparu mewn ardaloedd gwledig – mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi meddygon teulu i roi moddion presgripsiwn i bobl yn hytrach na rhoi presgripsiwn iddyn nhw er mwyn mynd ag ef i fferyllfa.
Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd y bwrdd iechyd yn ystyried beth allai newid dros y pum mlynedd nesaf a ph’un a fydd digon o fferyllfeydd ai peidio yn y mannau cywir sy’n darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl, er enghraifft, wrth i ragor o dai gael eu hadeiladu.
Mae eich barn yn bwysig felly cymerwch ychydig funudau’n llenwi’r holiadur hwn. Bydd yn cymryd rhyw 10 i 15 munud i chi ei lenwi yn dibynnu ar faint o wybodaeth yr ydych am ei rhannu am eich profiad o ddefnyddio fferyllfeydd.
Mae’r holiadur yn ddienw a fydd dim modd eich adnabod chi drwy unrhyw wybodaeth byddwch chi’n ei rhoi.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r holiadur neu os oes cwestiynau gyda chi ynglŷn â sut i lenwi’r holiadur, e-bostiwch CTM.PNAqueries@wales.nhs.uk gyda’r pwnc “holiadur AAFf”.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi comisiynu Comisiynu Gofal Sylfaenol CIC (PCC) i ddrafftio'r asesiad o anghenion fferyllol. Bydd PCC yn cadw eich ymatebion a bydd yn eu defnyddio dim ond at ddiben drafftio'r asesiad o anghenion fferyllol. Byddem yn gofyn i chi beidio â darparu unrhyw wybodaeth a allai ei gwneud yn bosibl i bobl eich adnabod, fodd bynnag, bydd pob data a ddarperir yn eich ymateb yn cael ei gadw gan PCC yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 1998 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.