Dywedodd ein Hasesiad Llesiant wrthym fod gan gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf lawer i fod yn falch ohono. Fodd bynnag, nid yw pob cymuned yn cael mynediad teg at gyfleoedd ac maent yn wynebu heriau gwahanol sy’n effeithio ar lesiant. Rydym wedi dysgu o’n Hasesiad Llesiant i nodi sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd yn lleol i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn mewn perthynas â’n ffyrdd o fyw, ein cymunedau, a’n hamgylchedd i wella llesiant pobl sy’n byw yma nawr ac adeiladu tuag at ddyfodol teg. Mae’r cynllun drafft yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i wneud hyn.
Thema gyffredinol ein Cynllun Llesiant yw ‘Cwm Taf Morgannwg Fwy Cyfartal’ ac sy’n llywio pob agwedd ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
 

1. A gytunwch mai creu 'Cwm Taf Morgannwg mwy cyfartal’ yw’r peth iawn i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ganolbwyntio arno? *