Asesiad o Anghenion Dioddefwyr Dyfed Powys 2026

Cyflwyniad

0%
 

Helô! Ni yw tîm TONIC – mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) Dyfed-Powys wedi gofyn i ni gasglu adborth gan bobl yr effeithiwyd arnynt gan droseddu yn lleol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi dioddefwyr troseddau.

Hoffem glywed eich adborth ar y gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr presennol yn ardal Dyfed Powys, a’ch syniadau ar sut y gellid gwella cymorth i ddioddefwyr yn y dyfodol. Yn ogystal, yng ngoleuni cyhoeddiad yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU ynghylch diddymu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr erbyn 2028, gellir defnyddio asesiadau o anghenion dioddefwyr i lywio ac arwain y broses o ddyrannu cyllid ar gyfer gwasanaethau i ddioddefwyr nawr ac yn ystod unrhyw drefniadau trosglwyddo, gan sicrhau bod pob penderfyniad ariannu yn cael ei lywio gan ganfyddiadau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Dim ond ychydig funudau y mae’r arolwg yn eu cymryd i’w gwblhau ac mae’n gyfrinachol. Ar ddiwedd yr arolwg, os hoffech chi ddweud mwy wrthym, bydd cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru i gael sgwrs fanylach gyda ni.

Bydd yr holl ddata a gesglir yn ystod Asesiad o Anghenion Dioddefwyr Dyfed Powys yn cael ei gasglu, ei ddadansoddi, a’i ysgrifennu mewn adroddiad terfynol.

Drwy gwblhau’r arolwg hwn, rydych chi’n cydsynio i ni ddefnyddio eich data ar gyfer yr adroddiad.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â dyfedpowysvna@tonic.org.uk