Diolch i chi am roi o’ch amser i ymateb i’r arolwg hwn. Dylai gymryd 5 munud i’w lenwi. Gallwch gadw eich atebion a dychwelyd i’r arolwg rywbryd eto.

Mae Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr yn gweithredu’n annibynnol ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a’r llysoedd i hyrwyddo hawliau dioddefwyr a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn gywir gan y system cyfiawnder troseddol.

Mae’n hollbwysig ein bod yn clywed gan ddioddefwyr troseddau am eu profiadau o’r CPS a’r system llysoedd. Dyma eich cyfle chi i ddweud eich dweud. Drwy rannu eich adborth, gall y Comisiynydd Dioddefwyr helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn y dyfodol yn cael y cymorth a’r canlyniadau cyfiawnder sydd eu hangen arnynt. Hoffem glywed gan unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd yng Nghymru a Lloegr sydd wedi arwain at y CPS yn cyhuddo cyflawnwr y trosedd. 

Byddwn yn dadansoddi’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ac yn cyhoeddi adroddiad ohoni, a fydd yn ychwanegu at yr wybodaeth ymchwil am brofiadau dioddefwyr o’r system llysoedd. Mae’r arolwg yn ddienw, ond ar y diwedd gofynnwn i chi roi caniatâd i ni gysylltu â chi drwy e-bost i drefnu cyfweliad dilynol i siarad am eich profiad gyda’r CPS a’r system llysoedd yn fanylach. Byddwch yn ddienw yn ein hadroddiadau (ni fydd modd eich adnabod ohonynt), p’un ai ydych chi’n dewis rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni ar ddiwedd y gyfres hon o gwestiynau ai peidio.

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd hwn sy’n egluro sut mae Swyddfa'r Comisiynydd Dioddefwyr yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol.

Rydym yn awyddus i glywed gan bawb sydd eisiau llenwi’r arolwg hwn. Os ydych chi’n cefnogi rhywun sydd wedi bod yn ddioddefwr ac a fyddai’n hoffi ymateb ond sydd ddim yn gallu gwneud hynny oherwydd iaith, oedran, diffyg mynediad i’r rhyngrwyd neu rwystrau eraill, mae croeso i chi lenwi’r arolwg gyda nhw. Neu, gallwch gysylltu â ni yn victims.commissioner@victimscommissioner.org.uk os hoffech chi wneud cais am gael yr arolwg mewn fformat gwahanol. Ar ddiwedd yr arolwg, rydym yn gofyn cwestiwn am y rhwystrau hyn. Bydd eich atebion yn ein helpu i wella arolygon yn y dyfodol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn: victims.commissioner@victimscommissioner.org.uk