Mae tîm Polisi Rhyddid Gwybodaeth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am lunio ac adolygu canllawiau manwl ar ryddid gwybodaeth ac ar y rheoliadau gwybodaeth amgylcheddol (EIR).
Rydyn ni’n gofyn barn yr holl randdeiliaid sy'n ymwybodol o'r canllawiau manwl a/neu'n defnyddio'r canllawiau manwl, a hynny er mwyn casglu adborth a'n helpu i ddeall a yw'r canllawiau’n helpu’r awdurdodau cyhoeddus i wneud y canlynol:
- llywio drwy’r ddeddfwriaeth a’i chymhwyso’n hawdd wrth ymdrin â cheisiadau am wybodaeth, pan ddaw’r ceisiadau i law ac yn ystod yr adolygiad mewnol,
- gwneud cyflwyniadau o ansawdd dda i'r ICO wrth ymgysylltu â'r rheoleiddiwr at ddibenion cwyn ynghylch ymateb awdurdod i gais,
- amddiffyn eu safbwynt eu hunain yn ystod apêl i’r Tribiwnlys yn erbyn hysbysiad penderfynu gan yr ICO.
Byddwn ni’n defnyddio'r ymatebion i adeiladu sylfaen dystiolaeth ar lefel agregedig. Fydd dim modd adnabod ymatebion unigol.
Bydd yr arolwg yn aros yn agored tan 23:59 (GMT) ar 31 Gorffennaf 2026. Allwn ni ddim ystyried ymatebion sy’n cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad cau. Dylai'r arolwg gymryd tua 15-25 munud i'w gwblhau.
Mae'r arolwg wedi'i strwythuro fel a ganlyn:
- Gwybodaeth gefndir amdanoch chi; a
- Eich adborth ar y canllawiau statudol manwl ynghylch rhyddid gwybodaeth a’r EIR.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu anawsterau wrth gwblhau'r arolwg yma, gallwch gysylltu â ni drwy anfon neges ebost aton ni yn: FOIguidanceconsultation@ico.org.uk.
Datganiad Preifatrwydd
Sylwch ein bod yn defnyddio'r llwyfan SmartSurvey i gasglu'r wybodaeth yma. Gweler eu Polisi a'u Hysbysiad Preifatrwydd i gael rhagor o fanylion.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud gyda data personol, gweler ein hysbysiad preifatrwydd a'r adran ar ymateb i’n ceisiadau ymgynghori a'n harolygon.