Criw Mentrus - arolwg ar gyfer ysgolion eraill

1. Cyflwyniad

0%
 
Mae'r arolwg hwn yn rhan o werthusiad o gynllun Dyfodol Byd-eang gan gwmni ymchwil Arad. Strategaeth Llywodraeth Cymru yw Dyfodol Byd-eang er mwyn cefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion byd-eang, sy’n gallu cyfathrebu mewn ieithoedd rhyngwladol, ac sy’n deall a gwerthfawrogi eu diwylliant ei hunain a diwylliannau eraill.

Mae'r holiadur hwn yn cael ei ddosbarthu i ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig yng Nghymru. Mae'r arolwg wedi'i anelu at y canlynol:
Mewn ysgolion uwchradd, Penaethiaid Ieithoedd Rhyngwladol / Ieithoedd Tramor Modern
Mewn ysgolion cynradd, arweinyddion Ieithoedd Rhyngwladol / uwch-arweinyddion sydd â chyfrifoldeb am ieithoedd o fewn y cwricwlwm.

Arolwg cymharol byr yw hwn wedi'i ffocysu ar gasglu'r wybodaeth ganlynol:
Addysgu a dysgu ieithoedd ar hyn o bryd
Cyswllt â Dyfodol Byd-eang ac effaith ganfyddedig gweithgareddau
Gweithgareddau wrth gynllunio ieithoedd rhyngwladol fel rhan o drefniadau cwricwlwm newydd

Ceir wybodaeth bellach ar y defnydd o'r data yn yr hysbysiad preifatrwydd, sydd ar gael YMA [Dolen]