Bydd ein gwefan yn helpu busnesau i recriwtio talent amrywiol a rhoi mynediad at gymuned o gyflogwyr cynhwysol i bobl anabl sy’n chwilio am waith. Rydym yn datblygu’r safle gyda’r bobl a fydd, gobeithio, yn ei ddefnyddio: bydd eich adborth yn ein helpu ni i greu adnodd sy’n bodloni anghenion pawb.
Cwestiynau ar gyfer rhai sy’n chwilio am waith.
1. Sut ydych chi’n chwilio am waith ar hyn o bryd?
2. Pa wefannau chwilio am waith ydych chi’n eu defnyddio, os o gwbl?
3. Beth sy’n anodd ynghylch ymgeisio am swyddi?
4. Beth fyddai’n gwneud chwilio/ymgeisio am swyddi ar-lein yn haws i chi?
5. Hoffech chi gael opsiwn o gyflwyno fideos neu ffeiliau sain yn hytrach na cheisiadau ysgrifenedig?
6. Beth ydych chi’n ystyried yn fanteision o ran llwyfannau hurio yn benodol ar gyfer pobl ag anableddau?
7. Beth ydych chi’n eu gweld sy’n rhwystr i ddefnyddio’r safle?
8. A fyddech chi'n defnyddio ardal mewngofnodi lle gallwch chi gadw ceisiadau, cyflogwyr ffefryn ac ati?
9. Beth arall fyddech chi'n ei chael yn ddefnyddiol ar y wefan?
10. Ydych chi'n meddwl y dylai'r wefan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli a gwaith di-dâl, neu opsiynau profiad gwaith?
11. Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio'ch anabledd neu gyflwr iechyd orau, os o gwbl?
12. Pryd ydych chi fel arfer yn crybwyll eich anghenion iechyd i ddarpar gyflogwr?
13. Pryd fyddai orau gennych chi siarad am eich anghenion iechyd?
14. Byddem wrth ein bodd yn clywed barn gan ddarpar ddefnyddwyr y safle wrth i ni ddechrau ei adeiladu. Gallai hynny olygu gadael i ni wybod beth ydych chi’n feddwl o osodiad y safle neu’r dyluniad a’r brandio. Rhannwch eich manylion os gwelwch yn dda os hoffech chi i rywun gysylltu â chi gyda chyfleoedd i gymryd rhan ymhellach.
I gael gwybod sut rydym yn cofnodi ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gweler ein polisi preifatrwydd yn https://rcs-wales.co.uk/cy/preifatrwydd/