Ym mis Medi 2025, fel rhan o Gam 1 o'r ymgynghoriad hwn, gofynnwyd i chi rannu eich barn ar Wasanaethau'r Cyngor a gosod y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/27.
Dyma ganlyniadau Cam 1:
Blaenoriaethau gwasanaeth
Rhestrodd y cyfranogwyr eu blaenoriaethau gwasanaeth o 1 i 6, gydag 1 yn flaenoriaeth, fel a ganlyn:
1. Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Chyfranogiad Ieuenctid
2. Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg
3. Economi, Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth
4. Newid Hinsawdd a Chymunedau
5. Cynaliadwyedd Ariannol, Asedau a Masnachol
6. Trawsnewid, Llywodraethu a Phartneriaeth Gymdeithasol
Treth y Cyngor
Pan ofynnwyd am y Dreth Gyngor:
• Pleidleisiodd 50.35% i gynnal cymaint o wasanaethau â phosibl ar y lefel bresennol, hyd yn oed os yw'n golygu cynnydd yn y Dreth Gyngor uwchlaw 5%.
• Pleidleisiodd 49.65% i dorri gwasanaethau i gadw unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor i'r lleiafswm.
Camau nesaf
Yn dilyn Cam 1 o'r ymgynghoriad cyllideb, rydym wedi gallu lleihau'r bwlch cyllidebol a ragwelir ar gyfer 2026/27 o £9.1 miliwn i £5.6 miliwn*.
Rydym wedi rhagweld cynnydd o 2.3% yn ein grant gan Lywodraeth Cymru. Os bydd y setliad terfynol yn darparu cynnydd uwchlaw 2.3%, bydd pob punt ychwanegol yn cael ei defnyddio'n uniongyrchol i leihau'r bwlch cyllidebol sy'n weddill ymhellach.
Pam Mae gennym Fwlch Cyllidebol o Hyd
Rydym yn dal i wynebu bwlch cyllidebol oherwydd bod cost darparu gwasanaethau hanfodol yn codi'n gyflymach na'r cyllid a dderbyniwn. Mae chwyddiant, costau cyflog a chontractau uwch, a phwysau ar draws gwasanaethau allweddol i gyd yn cyfrannu at wariant cynyddol. Fodd bynnag, nid yw'r cyllid grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru yn cynyddu ar yr un cyflymder, gan greu bwlch rhwng yr hyn y mae'n ei gostio i ddarparu gwasanaethau a'r arian sydd ar gael i'w hariannu. O ganlyniad, nid oes gan y Cyngor ddigon o gyllid ar hyn o bryd i barhau i ddarparu'r holl wasanaethau ar eu lefelau presennol ar gyfer 2026/27.
Rydym yn dychwelyd gyda Cham 2 o'r ymgynghoriad hwn i rannu canlyniadau Cam 1, a gofyn i fwy o drigolion rannu eu barn ar flaenoriaethau gwasanaeth a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Cyn i chi symud ymlaen at y cwestiynau, gellir dod o hyd i nodyn atgoffa am wasanaethau'r Cyngor yma.
Am ragor o wybodaeth am sut mae cyllideb y Cyngor yn cael ei gwario, ewch i: https://www.merthyr.gov.uk/council/council-finances/how-the-councils-budget-is-spent/
Mae'r aroleg hwn yn gau am hanner nos ar dydd Iau 18 Rhagfyr 2025.
*Yn amodol ar newid yn dilyn setliad terfynol Llywodraeth Cymru.