Llunio Dyfodol Ysbyty Cymuned Tywyn

0%

1. Datblygu'r opsiynau
Page 1 of 6

Ers peth amser, rydym wedi bod yn siarad â chymuned Tywyn a'r cyffiniau am ddyfodol Ward Dyfi yn yr Ysbyty cymunedol. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r cannoedd o drigolion lleol sydd eisoes wedi rhannu eu barn gyda ni. 

Ar sail yr adborth a gafwyd hyd yma, a thrwy weithio gyda rhanddeiliaid lleol a grwpiau cymunedol mewn lleoliad ystafell gytbwys, datblygwyd pum senario neu opsiwn posibl i'w hystyried ymhellach. Y pum opsiwn oedd: 

  • Opsiwn A: Ailagor y ward fel yr oedd yn 2023, heb ddarparu'r gwasanaethau newydd a ddatblygwyd i liniaru effaith y cau dros dro.
  • Opsiwn B: Cynnal y sefyllfa bresennol sef dim gwelyau ar Ward Dyfi, ond parhau i ddarparu'r gwasanaethau newydd a ddatblygwyd i liniaru effaith y cau dros dro. Y gwasanaethau newydd yw 
    • Tuag Adref (Homeward Bound) sy'n ceisio atal oedi i gleifion sy'n gadael yr ysbyty trwy gynnig cymorth yn eu cartrefi eu hunain i'r rhai sy'n barod i adael yr ysbyty ond a allai fod yn aros am becyn gofal;
    • Uned Mân Anafiadau sydd ar agor ar benwythnosau ac am oriau estynedig yn ystod yr wythnos;
    • Hwb Llesiant Tywyn; ac 
    • Ystafell Driniaeth, menter gwasanaeth a grëwyd i weithio ar y cyd â meddygfeydd teulu i gynnig ystod ehangach o gyfleusterau i gleifion yn eu cymuned leol. Mae'r tîm o staff nyrsio sy'n gweithio yn yr uned yn darparu pob math o ofal clwyfau gan gynnwys newid rhwymynnau sylfaenol, rhwymynnau cywasgu a thrin wlserau ar y goes.
  • Opsiwn C: Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys defnyddio Ward Dyfi fel canolfan ar gyfer triniaethau dydd. Bydd cartrefi nyrsio a phreswyl lleol, gan gynnwys y rhai sy'n cynnig gofal diwedd oes, yn darparu gwasanaethau gofal gwely i drigolion Tywyn. Bydd hyn hefyd yn gweld datblygu Tywyn yn ganolfan ar gyfer gwasanaethau cymunedol (heb welyau) gan adeiladu ar ddarpariaeth y gwasanaethau presennol (gan gynnwys gwasanaethau diwedd oes yn y cartref). Byddai'r gwasanaethau newydd yn parhau i gael eu darparu.
  • Opsiwn D: Mae'r opsiwn hwn hefyd yn defnyddio Ward Dyfi fel canolfan ar gyfer triniaethau dydd. Bydd cartrefi nyrsio a phreswyl lleol, gan gynnwys y rhai sy'n cynnig gofal diwedd oes, yn darparu gwasanaethau gofal gwely i drigolion Tywyn. Bydd hyn hefyd yn gweld datblygu Tywyn yn ganolfan ar gyfer gwasanaethau cymunedol (heb welyau) gan adeiladu ar ddarpariaeth y gwasanaethau presennol (gan gynnwys gwasanaethau diwedd oes yn y cartref). Byddai'r gwasanaethau newydd yn parhau i gael eu darparu. Bydd Opsiwn D hefyd yn archwilio datblygu rhagor o wasanaethau sy’n agosach at y cartref i grŵp ehangach o bobl.
  • Opsiwn E: Defnyddio Ward Dyfi fel uned ail-alluogi ar gyfer cleifion nad oes angen gofal meddygol arnynt mwyach ond y mae angen eu monitro a'u hasesu gan therapyddion a nyrsys i benderfynu a ydynt yn barod i fynd adref a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen.

Yn dilyn y broses o ddatblygu'r pum opsiwn posibl, cynhaliwyd sesiwn pellach i werthuso pob sesiwn yn erbyn set o feini prawf a gynlluniwyd ar y cyd â'r un grŵp o randdeiliaid. Drwy’r broses hon, blaenoriaethwyd tri opsiwn (B, C a D) ar gyfer eu datblygu ymhellach.  

 

Ni chafodd Opsiynau A ac E eu blaenoriaethu, ond mae'n bwysig nodi nad oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud. Rydym yn croesawu pob barn ar y syniadau, gan gynnwys awgrymiadau am sut y gellid goresgyn yr heriau wrth ailagor y ward. Gellir crynhoi'r rhesymau na chafodd yr opsiynau eu cynnwys ar restr fer y rhanddeiliaid fel a ganlyn:

  • Ni chafodd Opsiwn A (ailagor ward cleifion mewnol 24/7) ei roi ar y rhestr fer oherwydd sgoriau isel o ran cynaliadwyedd, effaith a gweithlu. Roedd staffio anniogel, budd cyfyngedig i gleifion, a phroblemau posibl gyda mynediad ehangach a gwasanaethau presennol yn bryderon allweddol, er gwaethaf cefnogaeth y cyhoedd.
  • Ni chafodd Opsiwn E (ychwanegu ward ail-alluogi â gwelyau) ei roi ar y rhestr fer chwaith oherwydd diffyg cefnogaeth, diffyg eglurder, diffyg gofal meddygol, a phryderon ynghylch cau gwasanaethau newydd effeithiol.

Bydd eich adborth yn ein helpu i ddatblygu ein syniadau cyn yr ymgynghoriad ffurfiol 12 wythnos o hyd a gynhelir yn ystod y Gwanwyn/Haf 2026.  

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwch chi'n ei darparu at ddibenion yr ymarfer hwn yn unig, ac yn unol â gweithdrefnau GDPR safonol BIPBC.

https://bipbc.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-ysbyty/llyfrgelloedd-bipbc/gwybodaeth-gyffredinol/llyfrgelloedd-bipbc-datganiad-gdpr/