Rydym ni eisiau clywed gennych chi
Mae’n hanfodol bod Credoau personol ac arfer meddygol yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau pawb y mae’n effeithio arnynt.
Rydym am glywed gan gleifion a’r rheini sy’n eu cefnogi, meddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anaesthesia, amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a sefydliadau gofal iechyd.
Mae amrywiaeth o systemau credoau yn bodoli yn y DU, a gall credoau personol fod ar sawl ffurf. Gallant fod yn grefyddol, yn wleidyddol, yn athronyddol neu’n foesol eu natur ac yn seiliedig ar arferion diwylliannol yn ogystal â ffactorau cymdeithasol ac ysbrydol.
Rydym yn cydnabod y gall y graddau y bydd credoau personol claf yn dylanwadu ar ei flaenoriaethau gofal iechyd amrywio o un claf i’r llall. Mae hyn hefyd yn wir am y gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio – o ran eu credoau ac i ba raddau y mae’r credoau hynny’n sail i’w dull ymarfer. Mae angen i’r canllawiau wedi’u diweddaru roi cyfrif am yr amrywiadau hyn a sicrhau bod hawliau gwahanol grwpiau’n gytbwys.
Mae’n bwysig ein bod yn deall sut mae’r materion sy’n cael sylw yn yr ymgynghoriad hwn yn berthnasol i’r gwahanol ardaloedd ac amgylcheddau lle mae’r gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio yn gweithio. Rydym yn annog unigolion a sefydliadau o bedair gwlad y DU i gymryd rhan.
Bydd eich adborth yn siapio’r canllawiau diweddaraf ac yn ein helpu i gefnogi meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia i ddarparu gofal diogel da i gleifion. Bydd hefyd yn helpu i gyfrannu at ddiwylliannau yn y gweithle sy’n barchus, yn deg, yn gefnogol ac yn dosturiol i bawb.
Mae’r ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos, rhwng 19 Mawrth 2026 – 11 Mehefin 2026, felly rhannwch eich barn â ni.