Arolwg: Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) ym Merthyr Tudful

0%
 
Fel rhan o’r adolygiad o’r cynllun gwella hawliau tramwy, rydym yn chwilio am farn y cyhoedd mewn perthynas â’r rhwydwaith Hawliau Tramwy ym Merthyr Tudful.

 

Gall hawliau tramwy cyhoeddus fod yn llwybrau cerdded, llwybrau ceffylau, ffyrdd cefn sydd ar agor i’r holl draffig a hefyd llwybrau sy’n cael eu hyrwyddo megis Llwybr Taf, Llwybr Trevithick, Llwybr Blaenau’r Cymoedd a hefyd y Llwybr Celtaidd. Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn elfen bwysig o’r gymuned am eu bod nhw’n gallu darparu man diogel i bobl chwarae, i gadw’n heini a hyd yn oed i deithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith.  

 

Byddem yn ddiolchgar petai chi’n gallu cwblhau’r holiadur byr hwn i’n helpu ni ddeall eich barn ar ein rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yma ym Merthyr Tudful. Bydd yr arolwg yn cau am 11.59pm ddydd Gwener 20 Mehefin, 2025.

Ydych chi'n defnyddio'r Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ym Merthyr Tudful? *

 

Os ydych, ym mha ward yr ydych chi'n defnyddio'r hawliau tramwy cyhoeddus? *