Arolwg Ymgysylltu â'r Cyhoedd
0%

1. Arolwg Ymgysylltu â'r Cyhoedd
Page 1 of 2

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'ch GIG lleol chi. Rydym yn darparu gwasanaethau iechyd y byddwch chi, eich teulu a'ch ffrindiau yn gyfarwydd â nhw yn eich ardal leol chi fel meddygon teulu, deintyddion ac ysbytai.

Mae'n bwysig i ni ddeall sut hwyl rydym yn ei chael o ran gwrando ac ymgysylltu â'r cyhoedd, yn eich barn chi.  Mae'ch sylwadau chi yn ein helpu i wella a dysgu am y materion sy'n bwysig i chi.

I wneud hynny'n dda, rydym yn gofyn i chi fod yn onest gyda ni a rhoi gwybod i ni beth sy'n gweithio'n dda a beth mae angen ei wella. 

Bydd yn cymryd rhyw 15 munud i gwblhau'r arolwg hwn, a bydd eich ymatebion yn cael eu cadw'n gwbl gyfrinachol ac yn cael eu defnyddio at ddiben yr ymarfer ymgysylltu hwn yn unig. 

Mae'r holiadur yn wirfoddol, yn ddienw ac yn gyfrinachol, a bydd yr holl adborth a gawn yn cael ei gofnodi a'i adolygu a chaiff y prif themâu eu nodi. 

Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r holiadur yw Dydd Gwener 19 Medi.  Diolch am eich amser a'ch cyfraniad gwerthfawr. 

Pan fyddwch yn llenwi'r blychau testun rhydd, cofiwch beidio nodi unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi neu pwy yw unrhyw unigolyn arall.  Defnyddir y wybodaeth y byddwch yn ei darparu i ddatblygu ein cynigion a chedwir y wybodaeth honno yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data. 

 

 

A ydych yn ateb yr arolwg hwn fel:

 

Pa ddulliau o ymgysylltu â'r cyhoedd sydd fwyaf ystyrlon i chi? (ticiwch bob un sy'n berthnasol)

 

Pa rwystrau, os o gwbl, sy'n eich atal rhag cymryd mewn rhan gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd?

 

Beth ellid ei wneud i sicrhau bod cyfleoedd ymgysylltu'n fwy hygyrch ac yn fwy ystyrlon i chi?

 

Pa fath o faterion a fyddech yn hoffi i'r Bwrdd Iechyd ymgysylltu â chi yn eu cylch? (ticiwch bob un sy'n berthnasol)

 

Ymgysylltu Digidol 

A ydych wedi cyrchu unrhyw rai o sianeli digidol y Bwrdd Iechyd?

 

Ymgysylltu Digidol

Os ydych, ticiwch bob un sy'n berthnasol

 

Sut fyddech yn graddio eich profiad yn gyffredinol  gyda sianeli ymgysylltu digidol y Bwrdd Iechyd?

 

Pa heriau a ydych wedi'u hwynebu wrth geisio ymgysylltu'n ddigidol? (Dewiswch bob un sy'n berthnasol)

 

Eich gallu i ddylanwadu ar wasanaethau 

Ar raddfa o 1 i 10, faint o gyfle a ydych yn ei gael i ddylanwadu ar flaenoriaethau a phenderfyniadau iechyd yn eich ardal leol chi neu i ddweud eich dweud yn hynny o beth? 

 

Beth fyddai'n ei gwneud yn haws i chi ddylanwadu ar flaenoriaethau a phenderfyniadau'r Bwrdd Iechyd ar gyfer yr ardal?

 

Ble fyddech yn ceisio gwybodaeth am wasanaethau'r Bwrdd Iechyd fel arfer?

 

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu brofiadau eraill yr hoffech eu rhannu, rhowch sylwadau isod: