Annwyl bawb,

Mae gan Gyngor Sir y Fflint ddyletswydd o dan Ddeddf Gofal Plant 2006 i asesu'r farchnad gofal plant leol er mwyn sicrhau digon o leoedd gofal plant ar gyfer Sir y Fflint. 

Mae rhan o'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) a chyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru bob pum mlynedd.

Ar hyn o bryd rydym yn ymgymryd â'r ADGP ar gyfer 2027-2032, fel rhanddeiliad allweddol mewn gwasanaethau gofal plant a blynyddoedd cynnar, bydd eich adborth yn ein helpu i adeiladu dealltwriaeth gliriach o gryfderau, heriau a chyfleoedd y sector ar gyfer y dyfodol.

Diolch am weithio gyda ni i helpu i greu'r canlyniadau gorau posibl i blant, teuluoedd a darparwyr.

 

1. Nodwch ym mha rinwedd rydych chi'n cymryd rhan yn yr arolwg hwn