Arolwg: Strategaeth Gwastraff ac Adnoddau Merthyr Tudful

0%
 
Nod ein Strategaeth Gwastraff ac Adnoddau newydd yw adeiladu ar ein cyflawniadau o'r Cynllun Gwastraff blaenorol 2015-2025 drwy geisio lleihau gwastraff ymhellach, cynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio eitemau ac ailgylchu mwy. Bydd hyn yn ein helpu i fynd i'r afael â sawl her a sicrhau bod ein gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn parhau i fod yn effeithiol ac effeithlon. Mae'r heriau hyn yn cynnwys:

  • Cwrdd â'r targed ailgylchu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru
  • Lleihau ein hallyriadau carbon erbyn 2030
  • Cefnogi effeithlonrwydd cost o fewn y cyngor
  • Alinio â strategaethau gwastraff cenedlaethol Cymru
  • Paratoi ein gwasanaethau ar gyfer diwygiadau gwastraff a deddfwriaeth sydd ar ddod
  • Am yr ymgynghoriad hwn

Rydym yn awyddus i dderbyn adborth ar ein camau gweithredu arfaethedig a bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu defnyddio i helpu i gwblhau ein Strategaeth Gwastraff ac Adnoddau.
 

Cyn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ein Strategaeth Gwastraff ac Adnoddau - https://files.smartsurvey.io/3/0/5R7U2V8M/Merthyr_Tydfil_Waste_Strategy.CYMRAEG_2.pdf -  yn llawn i ddeall y rhesymau dros ein hamcanion a'n camau gweithredu strategol.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ddydd Gwener 26 Medi, 2025. 

 

I gael cyfle i ennill Cerdyn Rhodd Merthyr gwerth £50, cwblhewch yr arolwg a gadewch eich manylion cyswllt ar y dudalen olaf.  Mae pedwar taleb ar gael - pob lwc!