Arolwg Cenedlaethol YEF - Llywio Cymorth i Rieni, Teuluoedd a Phlant mewn Gofal (Cymru - Cymraeg)

Arolwg Cenedlaethol YEF - Llywio Cymorth i Rieni, Teuluoedd a Phlant mewn Gofal (Cymru - Cymraeg)

 

Cefndir

Mae'r Gronfa Gwaddol Ieuenctid (YEF) wedi comisiynu Cordis Bright i gynnal dau adolygiad ategol sydd â'r nod o gryfhau'r sail dystiolaeth ar sut i gefnogi plant a theuluoedd yn well. 

Mae'r adolygiad cyntaf yn canolbwyntio ar y rhaglenni rhianta a therapi teulu a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod cryn amrywiaeth o ran pa raglenni seiliedig ar dystiolaeth sydd ar waith ym mha ardaloedd lleol, a lefel yr effaith sy'n cael ei chyflawni.

Mae'r ail adolygiad yn archwilio rôl y system ofal o ran amddiffyn plant rhag bod yn rhan o drais, fel dioddefwyr a’r rhai sy'n troseddu. Gwyddom fod plant mewn gofal yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan drais a chamfanteisio, a bod cyfraddau llawer uwch ohonyn nhw'n rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid na'u cyfoedion. Fodd bynnag, ychydig iawn o dystiolaeth gyfredol sy’n bodoli ar y ffactorau a'r llwybrau yn y system gofal sy'n gallu lleihau neu waethygu'r risg hon.

Cyn argymell unrhyw gamau pellach, hoffai YEF feithrin dealltwriaeth fwy cadarn o'r canlynol: 

i)               y sefyllfa leol mewn perthynas â chomisiynu a chyflwyno rhaglenni rhianta a therapi teulu, a 

ii)              yr arferion, y polisïau a'r ymatebion ar lefel system sy'n llywio canlyniadau ar gyfer plant mewn gofal.

Gyda hyn mewn golwg, mae YEF wedi gweithio gyda Cordis Bright i ddatblygu'r arolwg hwn.

Mae'r arolwg yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am ba raglenni rhianta a therapi teulu seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael eu cyflwyno neu eu comisiynu gan eich awdurdod lleol. Mae hefyd yn cynnwys ychydig o gwestiynau am ffactorau risg ar gyfer trais, strategaethau lleol, rhwystrau system a'r bylchau mewn cymorth i blant mewn gofal.

Trwy'r arolwg hwn, rydym yn awyddus i gael darlun manwl iawn o'r ddarpariaeth leol, felly byddem yn ddiolchgar pe gallech annog cymaint o bobl â phosibl yn eich awdurdod lleol i lenwi'r arolwg hwn. Mae hyn yn cynnwys Cyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Cynorthwyol, rheolwyr gwasanaeth, comisiynwyr ac ymarferwyr.

Bydd eich ymatebion yn ein helpu i ddatblygu dangosfwrdd sy'n dangos darpariaeth rhaglenni rhianta a therapi teulu ledled Cymru a Lloegr. Yna, byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon fel y gallwch (a) fapio pa wasanaethau sydd ar waith ledled eich ardal leol; (b) nodi'r bylchau mewn data a darpariaeth; a (c) gweld beth sy'n cael ei ddarparu mewn ardaloedd eraill.

Diffiniadau i’ch helpu i gwblhau'r arolwg:

  • Rhaglenni rhianta - ymyriadau strwythuredig sydd â’r nod o helpu rhieni i feithrin perthynas gadarnhaol, ofalgar gyda'u plant a hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn eu plentyn.
  • Rhaglenni therapi teulu - ymyriadau strwythuredig sydd â’r nod o gryfhau’r berthynas deuluol, helpu plant i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant a gwella diogelwch, llesiant a sefydlogrwydd plant a theuluoedd. Maen nhw'n aml yn canolbwyntio ar 'fyd cyfan' y plant, gan gynnwys eu cartrefi a'u teuluoedd, ysgolion ac athrawon, cymdogaethau a ffrindiau.
  • Ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth - yn canolbwyntio ar ddefnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael o sawl ffynhonnell i lywio sut mae rhaglenni’n cael eu cynllunio a'u cyflwyno. Mae'n cynnwys profi a dysgu o'r hyn sy'n cael ei gyflwyno er mwyn deall a oes modd cymryd dulliau sy'n gweithio mewn theori a’u rhoi ar waith yn llwyddiannus.
  • Rhaglenni sy'n atal troseddu, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol - rydyn ni'n canolbwyntio ar y rhaglenni rhianta a therapi teulu hynny sydd â thystiolaeth o wella ymddygiad y plentyn neu ganlyniadau eraill sy'n gysylltiedig â thrais, fel sydd wedi'u diffinio yn y Foundations Toolkit. Nid yw rhaglenni sy'n canolbwyntio'n unswydd ar lythrennedd, rhifedd neu ddatblygiad plentyndod cynnar wedi'u cynnwys.
  • Risg plant o fod yn rhan o drais - yn cyfeirio at erledigaeth (dioddef trais neu gael eu targedu gan drais, gan gynnwys camfanteisio) a throseddu (cymryd rhan mewn ymddygiadau treisgar neu gael eu cyhuddo o gymryd rhan mewn ymddygiadau treisgar). 

Cyfrinachedd

Bydd pob ymateb i'r arolwg yn cael ei drin yn gyfrinachol a'i storio'n ddiogel. Unwaith y bydd y prosiect wedi gorffen, byddwn yn dileu'r data yn unol â'n polisïau diogelu data.

Yn ein hallbynnau cyhoeddus (megis y dangosfwrdd mapio neu adroddiad cryno), byddwn yn cynnwys gwybodaeth ar lefel rhaglen sy'n gysylltiedig â'r awdurdodau lleol a enwir. Fodd bynnag, ni fyddwn yn cyhoeddi nac yn rhannu unrhyw enwau, rolau swyddi na manylion eraill a allai gael eu defnyddio i adnabod ymatebwyr unigol.

Ni fydd ymatebion i gwestiynau testun agored neu gwestiynau am benderfyniadau comisiynu, ffactorau risg a galluogwyr a rhwystrau i gefnogi plant yn cael eu cysylltu ag awdurdodau lleol unigol. Bydd y rhain yn cael eu dadansoddi'n thematig a’u hadrodd ar lefel gyfanredol yn unig.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymryd rhan yn yr arolwg, neu sut fydd eich data yn cael ei storio a/neu ei ddefnyddio, cysylltwch â Cordis Bright drwy e-bostio YEFnationalsurvey@cordisbright.co.uk.