Online PrEP Form 2023 - CYM
Rydym yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar PrEP. Os ydych eisoes yn derbyn PrEP gan Uned Menai, mae gennych yr opsiwn o gwblhau ffurflen syml a mynd i glinig i gael eich profion rheolaidd ac i gasglu PrEP.
Os byddwch yn dewis parhau, gofynnir ychydig o gwestiynau ar-lein i chi er mwyn penderfynu ai cymryd PrEP yw'r dewis cywir i chi o hyd. Yna, bydd clinigwr yn adolygu eich hunanasesiad wedi'i gwblhau a byddwn yn cysylltu â chi eto (fel arfer o fewn wythnos) gyda chyngor ar beth i'w wneud nesaf. Fel arfer, apwyntiad gyda Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yw hwn, er nad felly o reidrwydd, i gael y profion priodol a chasglu PrEP.
Sylwer: ni allwn adolygu unrhyw symptomau na thrin unrhyw heintiau yn ystod apwyntiad PrEP Cyflym. Os oes gennych symptomau, bod arnoch angen triniaeth am haint, ei bod hi'n bryd i chi gael brechiad neu'ch bod yn awyddus i siarad â meddyg neu nyrs wyneb yn wyneb, trefnwch apwyntiad wyneb yn wyneb yn y clinig rheolaidd, lle gallwn hefyd roi PrEP ychwanegol i chi.
Mae'r gwasanaeth hwn yn addas ar gyfer pobl sydd eisoes yn mynd i Uned Menai i dderbyn PrEP yn unig.
There was an error on your page. Please correct any required fields and submit again. Go to the first error