Cymunedau Cynaliadwy
Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys) yn edrych i gefnogi dwy gymuned leol yng Ngheredigion drwy'r prosiect Cymunedau Cynaliadwy (a ariennir gan Gronfa Fuddsoddi Cymru) a fydd yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol wythnosol i drigolion ac yn hwyluso'r ddarpariaeth o gefnogaeth iddynt fyw'n annibynnol, yn eu cartrefi eu hunain, cyhyd â phosibl. Bwriad y prosiect yw helpu i adeiladu menter dan arweiniad y gymuned ei hun i gynyddu cydlyniad a lles cymunedol, fel y gall y gwaith barhau os yw cyfranogwyr yn teimlo ei fod yn fuddiol. Felly mae cefnogaeth pob cymuned a'r grwpiau cymunedol sydd eisoes yn bodoli yn y lleoliadau yma yn hanfodol.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg byr canlynol fel y gallwn archwilio a fyddai'r prosiect arfaethedig yn cael ei groesawu yn eich cymuned a sut y gallem weithio gyda chi i'w wneud yn llwyddiannus. Mae rhywfaint o gyllid ar gael i gynnal digwyddiadau a llogi safleoedd cymunedol yn eich cymuned fel rhan o'r prosiect. Byddwn yn cefnogi'r cymunedau yn ystod cyfnod y prosiect ac yn ceisio sefydlu model cynaliadwy o gefnogaeth i bobl leol nawr ac yn y dyfodol.
Byddem yn ddiolchgar iawn felly pe gallech chi gwblhau'r holiadur byr canlynol a diolch ymlaen llaw am eich amser.