
Mae Marchnad Gyffredinol Castell-nedd wedi bod yn rhan ganolog o fywyd y gymuned ers iddi agor ar Green Street yn 1837.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol i’r Farchnad Gyffredinol, gan fod ganddi ran bwysig i’w chwarae yn yr economi a’r profiad o ganol y dref i drigolion lleol ac ymwelwyr i’r ardal. Mae hefyd yn darparu cartref i amrywiaeth o fusnesau bach a lleol gan gynnwys hen bethau, dillad, cig a dofednod, ffrwythau a llysiau ffres, nwyddau cartref, siopau trin gwallt, bariau ewinedd, bwyd anifeiliaid anwes a mwy.
Er mwyn cynnal a thyfu ei hapêl, mae’r Cyngor wedi penodi’r penseiri Roberts Limbrick i ddatbygu cynlluniau a fydd yn symud y farchnad ymlaen, gan barchu ei threftadaeth a theimlad o le yng nghanol y dref.
Mae’r Cyngor yn holi barn pobl leol er mwyn canfod sut ydych chi’n defnyddio’r Farchnad Gyffredinol heddiw a deall ar ba fathau o welliannau y dylem ganolbwyntio. Bydd eich barn yn cyfrannu at y cynlluniau ar gyfer y Farchand Gyffredinol.
Mae gennych tan y 5ed Mai i gwblhau'r arolwg hwn.
Diolch am eich amser yn cwblhau’r arolwg hwn. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.