Mae'r holiadur hwn yn cael ei gynnal gan Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr cymwysterau nad ydynt yn raddau, a'r system gymwysterau, yng Nghymru.
Hoffem glywed barn canolfannau sy'n darparu unrhyw un o gymwysterau lefel 4 a 5 iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant newydd yng Nghymru:
Cymwysterau Lefel 4 a 5 mewn Arwain a Rheoli: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Cymwysterau Lefel 4 a 5 mewn Arwain a Rheoli: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol
Lefel 4 Lleoli Oedolion / Cysylltu Bywydau
Lefel 4 Ymarferwr Gwasanaethau Cymdeithasol
* Mae holiadur i ganolfannau ar gyfer cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a 3 newydd Cymru'n unig, a chymwysterau Gofal Plant ar gael ar-lein yma.
Mae cymryd rhan yn yr holiadur hwn yn wirfoddol, ac ni fyddwn yn gofyn am eich enw. Peidiwch ag enwi eich canolfan nac unrhyw unigolion yn eich ymatebion.
Mae eich barn yn bwysig iawn i ni, a gall yr adborth a roddwch helpu i lywio ein gwaith o fonitro'r cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant hyn.
Dim ond tua phum munud y dylai'r holiadur hwn ei gymryd i'w gwblhau a rhaid ei gwblhau mewn un eisteddiad.
Diolch am gymryd rhan yn ein holiadur.