Cynhelir rhith-gynhadledd Wythnos Hinsawdd Cymru yn ystod yr wythnos yn cychwyn 11 Tachwedd a chaiff ei chefnogi gan raglen o ddigwyddiadau allgymorth Sgyrsiau Hinsawdd a gynhelir ledled Cymru rhwng dydd Llun 04 Tachwedd 2024 - dydd Gwener 10 Ionawr 2025.
Thema eleni: Addasu i’n hinsawdd sy’n newid.
Diolch am eich diddordeb mewn cynnal digwyddiad Sgwrs am yr Hinsawdd. Cwblhewch y ffurflen hon i wneud cais am gyllid i gynnal eich digwyddiad eich hun.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau’r Sgwrs Hinsawdd yw dydd Llun 14 Hydref 2024.
Er mwyn bodloni’r meini prawf cymhwyster, bydd angen i chi ddarparu adroddiad sy’n ateb cyfres o gwestiynau (manylion yn y Pecyn Trefnwyr) sy’n crynhoi canlyniad y trafodaethau a gynhaliwyd yn eich digwyddiad. Yn ddelfrydol, dylai eich adroddiad gael ei gyflwyno i Freshwater o fewn 7 diwrnod gwaith, neu erbyn y dyddiad cau terfynol, sef 31 Ionawr 2025.
Cyn llenwi’r ffurflen hon, cyfeiriwch at ein tudalen Sgyrsiau Hinsawdd i gael gwybodaeth am:
- Diben y gronfa.
- Pwy all wneud cais am y gronfa.
- Y gynulleidfa darged ar gyfer y digwyddiadau.
- Pryd y gellir cynnal digwyddiadau.
- Meini prawf cymhwyster.
- Cefnogaeth i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich digwyddiad a'i hwyluso.
- Beth all ac na all gael ei gynnwys ar gyfer y cyllid.
- Sut y gwneir taliadau i dalu am unrhyw gostau rhesymol.
- Sut i adrodd ar ganlyniadau eich digwyddiad.
Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu gan banel gwerthuso Llywodraeth Cymru ar Ddydd Gwener Hydref 2024.
Bydd Freshwater (y cwmni rheoli digwyddiadau sy’n cynorthwyo gydag Wythnos Hinsawdd Cymru) yn hysbysu’r holl ymgeiswyr o’r canlyniad erbyn yr wythnos yn cychwyn 21 Hydref 2024 gan gynnwys adborth gan y panel.
Ar waelod y dudalen, mae gennych yr opsiwn i “gadw a pharhau yn nes ymlaen”, defnyddiwch pan fo angen. Wrth lenwi'r ffurflen gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r botymau “tudalen nesaf” a “tudalen flaenorol” ar gyfer llywio er mwyn osgoi colli unrhyw wybodaeth sydd eisoes wedi'i gwblhau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn llenwi’r ffurflen hon, anfonwch e-bost atom yn walesclimateweek@freshwater.co.uk.