Cais Mynegi Diddordeb: Panel Ymgynghorol Goroeswyr Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru

1. Cyflwyniad

0%
Mae Partneriaeth Ranbarthol VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn sefydlu Panel Ymgynghorol Goroeswyr ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Diben y panel yw dod â goroeswyr a lleisiau goroeswyr ynghyd, gydag asiantaethau statudol a darparu drwy gyfoeth o gyfleoedd i lywio a dylanwadu ar bolisi ac arfer yn y rhanbarth. Fel arbenigwyr profiad trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, bydd y panel yn darparu mecanwaith i sicrhau bod anghenion goroeswyr wrth wraidd cynllunio a chyflwyno gwasanaethau VAWDASV yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Bydd eich mewnbwn yn llywio dyfodol gwasanaethau VAWDASV yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ac ni allwn wneud hyn heboch chi.

DIOLCH YN FAWR I CHI AM EICH DIDDORDEB YN Y PANEL.

 
* Cyn cwblhau’r arolwg hwn, sicrhewch eich bod wedi darllen yr Hysbysiad Preifatrwydd isod a chadarnhau eich bod yn hapus i’ch gwybodaeth gael ei chasglu a’i defnyddio yn y ffordd hon.

Hysbysiad Preifatrwydd Diogelu Data
Mae peth o’r wybodaeth a gasglwyd yn y cais hwn yn ddata personol,ac fe’i hystyrir yn ddata categori arbennig neu sensitif dan GDPR 2016 a Deddf Diogelu Data 2018.

Bydd eich gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn cael ei chadw ar gronfa ddata ddiogel. Ni fydd eich data personol yn cael ei gyhoeddi. Byddwn yn cadw’r cynnwys a ddarperir gennych yn y cais hwn at ddibenion recriwtio, ac i fonitro ymgeiswyr a nifer yr ymgeiswyr.
Byddwn yn defnyddio’ch manylion cyswllt er mwyn anfon gwybodaeth atoch sy’n ymwneud â’r Panel ac i ofyn am adborth fel rhan o weithgareddau’r Panel. Ac eithrio mewn cysylltiad â’r disgrifiadau a ddisgrifir uchod neu lle mae angen gwneud hyn yn ôl y gyfraith, ni fyddwn yn datgelu eich data i unrhyw drydydd partïon heb eich caniatâd. Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cymryd yr holl ragofalon rhesymol i atal colli, camddefnyddio neu ddiwygio data.

Caiff yr wybodaeth a ddarperir gennych chi ei storio a’i chadw am hyd at 3 blynedd. Ar ôl y cyfnod hwn, caiff y data ei ddileu ond caiff y canlyniadau ystadegol eu cadw.

Mae modd adrodd ar ddata ar y cyd o fewn adroddiadau a rhannu adborth gydag asiantaethau partner ac mewn cyfathrebu ehangach. Bydd hwn yn ddienw bob tro, ond drwy ei ddarparu yn y cais hwn, rydych yn rhoi caniatâd iddo gael ei ddefnyddio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cais, sut caiff y data ei gasglu neu ei gadw, neu i ofyn am gopi o’ch data personol, e-bostiwch mww.survivor.panel@gmail.com


 
 

1. Ydych chi’n hapus i’ch gwybodaeth gael ei chasglu yn y ffordd hon? *

 

2. Enw a Manylion Cyswllt *

*
*
*
 

3. Ym mha ardal Awdurdod Lleol rydych yn byw?

 

4. Ydych chi erioed wedi cael eich effeithio gan y canlynol?

 

5. Sut rydych chi am gymryd rhan yn y panel?

 

6. Sut rydych am i ni gyfathrebu â chi?

 

7. Dywedwch wrthym pam yr hoffech gymryd rhan ym Mhanel Ymgynghorol Goroeswyr Canolbarth a Gorllewin Cymru?

 

8. Oes angen unrhyw gymorth arnoch i gymryd rhan mewn unrhyw ffordd yn y panel hwn? Os felly, dywedwch wrthym ba gymorth byddai ei angen arnoch fel y gallwn helpu gyda hyn a’i drafod gyda chi ymhellach?

Use our survey software to create your survey.