Defnyddiwch y ffurflen hon dim ond ar gyfer boeleri, injans, generaduron annibynnol (wrth gefn ac ar alw) a thyrbinau â mewnbwn thermol o rhwng 1 a llai nag 20MW sy'n cael eu dosbarthu fel cyfarpar hylosgi canolig.
Ni ddylid defnyddio'r ffurflen hon ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig sydd hefyd yn eneraduron penodedig ac sydd â mewnbwn thermol sy'n gyfartal i neu'n fwy nag 20MW o ran maint neu sy'n llosgi 50kg neu fwy o fiomas gwastraff. Defnyddiwch y ffurflen o’r enw ‘
Cais am drwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig annibynnol sydd hefyd yn eneraduron penodedig neu'n weithgareddau Rhan B (MCP/SG/Rhan B)’.
Ni ddylid defnyddio'r ffurflen hon ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig sy'n rhan o osodiad neu safle gweithrediad gwastraff newydd neu bresennol. Dylech ddefnyddio'r ffurflenni
gosodiad neu weithrediad gwastraff perthnasol (ychwanegwch ddolen).
Ni ddylid defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig sydd eisoes wedi’i ganiatáu o dan drwydded awdurdod lleol Rhan B. Anfonwch e-bost at
mcpd.queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os ydych eisoes yn dal trwydded awdurdod lleol Rhan B ac yr hoffech gynnwys eich cyfarpar hylosgi canolig neu eneradur penodedig presennol.
Cyn llenwi’r ffurflen gais hon, bydd angen i chi ddarllen drwy’r canllawiau cyfarpar hylosgi canolig a generadur penodedig i sicrhau'r canlynol:
- Rydych yn gwneud cais am y drwydded gywir
- Rydych yn deall pa wybodaeth ategol y mae angen i chi ei chyflwyno gyda'ch cais
- Rydych wedi cwblhau'r asesiadau angenrheidiol sy'n ofynnol gan eich math o gais
- Rydych yn cynnwys y ffi gywir
Mae angen ateb ar y cwestiwn hwn
Rwyf wedi darllen y canllawiau *