Ffoniwch yr heddlu ar 999 mewn argyfwng, er enghraifft, pan fo:
o Trosedd yn cael ei chyflawni fel gwaith anawdurdodedig a/neu ddifrod (h.y. dymchwel neu ddinistrio, difrod, tynnu, newidiadau, llifogydd, tipio neu ddefnyddio synhwyrydd metel)
o Rhywun sy'n cael ei amau o drosedd gerllaw
o Perygl i fywyd neu eiddo
o Trais neu ymddygiad bygythiol
Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu ewch ar-lein i roi gwybod am drosedd a phryderon eraill nad ydynt yn gofyn am ymateb brys, er enghraifft:
o Pan fydd eiddo wedi'i ddwyn neu ei ddifrodi ac nad yw'r sawl dan amheuaeth bellach yn y lleoliad
o Os ydych chi'n amau bod pobl yn defnyddio synhwyrydd metel yn anghyfreithlon ar safle heb ganiatâd perchnogion tir
o I roi gwybodaeth i'r heddlu am drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal
Mae 101 ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
I drosglwyddo gwybodaeth am weithgarwch troseddol ac aros yn ddienw, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy ymweld â'u tudalen rhoi gwybodaeth ar-lein. Ni fydd yn rhaid i chi byth roi datganiad ffurfiol, siarad â'r heddlu na bod yn dyst yn y llys.
o Gallech dderbyn gwobr o hyd at £1,000 os yw'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn arwain at arestio a chyhuddo o leiaf un person.
o Mae llinell Crimestoppers ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Diolch am gymryd yr amser i roi gwybod am y digwyddiadau hyn.
o Sylwch fod miloedd o eiddo ledled Cymru sy'n henebion rhestredig neu gofrestredig ond NAD ydynt yn dod o dan Warcheidiaeth uniongyrchol Cadw. I roi gwybod am bryderon treftadaeth ynghylch adeiladau rhestredig a pharciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, cysylltwch â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol.
o I roi gwybod am Drosedd Dreftadaeth fwriadol a welwyd mewn unrhyw Heneb Cadw, defnyddiwch Ffurflen Rhoi gwybod am drosedd treftadaeth. Dylid defnyddio'r ffurflen hon pan fydd y digwyddiad yn cynnwys:
- Difrod i garreg hanesyddol
- Tyllau a wnaed gan ddyn o gloddio
- Tanau a achosodd ddifrod i'r ffabrig hanesyddol
- Graffiti ar y ffabrig hanesyddol
- Gwastraff anghyfreithlon
I roi gwybod am broblem neu bryder ynglŷn ag unrhyw un o'r henebion yng Ngwarcheidiaeth a Gofal Cadw, cliciwch ar 'Tudalen Nesaf' isod: