Skip to main content
2. Ymgynghoriad Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint â staff a’r gymuned
Progress bar
0%

1. Cyflwyniad

Mae Darpariaeth Ieuenctid Integredig Cyngor Sir y Fflint yn cynllunio ein gwasanaethau ar gyfer pan fydd y cyfnodau clo wedi dod i ben ac ar ôl 2024. Rydym yn cynnig:

(a) cadw a datblygu rhagor o wasanaethau ar-lein ac o bell ar gyfer pobl ifanc

(b) dwysau ein gwaith partneriaeth i gefnogi pobl ifanc mewn lleoliadau y maent eisoes yn ymweld â hwy

(c) ail-ddechrau darpariaeth clwb ieuenctid mwy cynaliadwy pan fydd y canllawiau COVID-19 yn caniatáu hynny a throsglwyddo rheolaeth 8 adeilad i ysgolion a sefydliadau cymunedol. 

Mae arnom ni eisiau gwybod eich barn, a lle bo hynny’n berthnasol, sut y gallwch chi neu eich gwasanaeth gyfrannu at y cynigion hyn.  Caiff y broses o weinyddu a darparu’r arolwg hwn ei chwblhau’n annibynnol. Dim ond ar gyfer cwestiynau 1, 8 a 9 y bydd y gwaith dadansoddi ac adrodd yn nodi enw’r sefydliad. Unwaith y bydd yr adroddiadau wedi’u cwblhau, bydd y data yn cael ei ddinistrio. Mae 9 cwestiwn ac ni fydd yr arolwg yn cymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau. Llenwch yr holiadur erbyn 12 Chwefror 2021 os gwelwch yn dda. Diolch!
*
Question 1.

Pa un o’r canlynol sy’n eich disgrifio chi orau? (os oes mwy nag un o’r rhain yn wir amdanoch chi, ticiwch bob un sy’n berthnasol)*

- Required.
This is required
This is required
Question 2.

Ym mha un o’r lleoliadau canlynol ydych chi?

This is required
Question 3.

Beth yw'r 2-3 mater blaenoriaeth i bobl ifanc Sir y Fflint sydd angen cefnogaeth?

Question 4.

Pa gyfleoedd a materion mae pobl ifanc fwyaf angen cymorth â hwy gan ein gweithwyr ieuenctid a chwarae yn y cyfnod hwn?

Bod yn ffynhonnell ar gyfer gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc
Gwybodaeth a chyngor am gyffuriau ac alcohol
Rhoi cyfle i bobl ifanc wneud rhywbeth gwahanol
Rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu rhywbeth newydd
Rhoi cyfle i bobl ifanc gyfarfod â mwy o bobl ifanc sy’n debyg iddyn nhw e.e. siaradwyr Cymraeg, pobl ifanc anabl, pobl ifanc LGBTQ+
Rhoi cyfle i bobl ifanc ymlacio/cael seibiant
Gwybodaeth a chyngor am iechyd rhywiol
Cymorth â thai
Cymorth â gwaith ysgol/coleg/dod o hyd i swydd
Cefnogi pobl ifanc sy’n profi pryder a straen e.e. teimlo’n bryderus, teimlo’n unig, hunan-niweidio
Cefnogi pobl ifanc sy’n cael problemau yn yr ysgol â phobl ifanc eraill e.e. bwlio, pwysau gan gyfoedion
Cefnogi pobl ifanc sy’n cael problemau gyda’r teulu/yn eu cartref
Cefnogi pobl ifanc sy’n cael problemau gydag athrawon a gwaith ysgol e.e. cael eu gwahardd, mynd i drwbl, straen arholiadau
Cefnogi pobl ifanc i deimlo’n fwy hyderus e.e. delwedd corff, pwysau gan gyfoedion
Cefnogi pobl ifanc i aros yn ddiogel e.e. diogelwch ar y we, perthnasoedd iach, aros yn ddiogel yn y gymuned
This is required
Question 5.

Gosodwch y gweithgareddau FIYP amrywiol canlynol ar gyfer pobl ifanc yn ôl trefn eu pwysigrwydd yn eich barn chi.

1 of 5 - Clybiau ieuenctid ar-lein. Select to start reordering
Clybiau ieuenctid ar-lein
2 of 5 - Clybiau ieuenctid yn ardaloedd y bobl ifanc. Select to start reordering
Clybiau ieuenctid yn ardaloedd y bobl ifanc
3 of 5 - Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gan weithiwr ieuenctid yn yr ysgol. Select to start reordering
Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gan weithiwr ieuenctid yn yr ysgol
4 of 5 - Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gan weithiwr ieuenctid o bell yn ôl yr angen gan bobl ifanc e.e. dros y ffôn, e-bost, cyfryngau cymdeithasol, Zoom. Select to start reordering
Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gan weithiwr ieuenctid o bell yn ôl yr angen gan bobl ifanc e.e. dros y ffôn, e-bost, cyfryngau cymdeithasol, Zoom
5 of 5 - Gwybodaeth a chyngor gan weithiwr ieuenctid mewn lleoliadau y mae pobl ifanc yn eu defnyddio o bosibl e.e. canolfan hamdden, parc, clwb chwaraeon, ysbyty, lloches ddigartref. Select to start reordering
Gwybodaeth a chyngor gan weithiwr ieuenctid mewn lleoliadau y mae pobl ifanc yn eu defnyddio o bosibl e.e. canolfan hamdden, parc, clwb chwaraeon, ysbyty, lloches ddigartref
Question 6.

Rydym wedi cynyddu ein hymgysylltiad digidol ac o bell â phobl ifanc a staff yn ystod 2020. Mae hyn yn cynnwys clybiau ieuenctid ar-lein (cyffredinol a pherthnasol i gymunedau sydd â diddordeb cyffredin), cyfarfodydd Cyngor Yr Ifanc, tudalen Facebook Darpariaeth Ieuenctid Integredig, gwaith 1:1 a grŵp â phobl ifanc a chyfarfodydd a hyfforddiant i staff. Mae gwaith polisi wedi’i gwblhau i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn ddiogel gan ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i staff. Rydym yn bwriadu cynnal a datblygu hyn ymhellach. Nodwch eich barn am y cynnig hwn os gwelwch yn dda.

This is required
Question 7.

I gyd-fynd â thraddodiad lleol o waith partneriaeth cryf a chyfarwyddyd polisi Llywodraeth Cymru, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a gwasanaethau eraill megis Aura, Gwasanaethau Tai a Phlant i sicrhau bod gweithwyr ieuenctid ar gael mewn lleoliadau y mae Pobl Ifanc yn eu mynychu. Rydym yn cynyddu ein cefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddigartrefedd, hunan-niweidio a chael eu gwahardd o’r ysgol. Rydym yn bwriadu cynnal a datblygu hyn ymhellach. Nodwch eich barn am y cynnig hwn os gwelwch yn dda.

This is required
Question 8.

Pan fydd y canllawiau COVID yn caniatáu, rydym yn cynnig cynnal clybiau ieuenctid rheolaidd eto yng Nghei Connah, y Fflint, Maes Glas, Coed-Llai, Mancot a Sandycroft, Penyffordd, Saltney a Sealand. Byddwn hefyd yn datblygu darpariaeth newydd yn Hwb Cyfle gan nad yw Deeside ar gael i ni mwyach. Nid oes gennym ddigon o gyllideb i dreulio amser ac arian yn rheoli adeiladau nad ydym yn eu defnyddio, megis yr Wyddgrug, neu adeiladau nad ydym yn cael digon o ddefnydd ohonynt, megis Penyffordd, felly byddwn yn ystyried ysgolion a sefydliadau cymunedol sydd â diddordeb mewn rheoli’r rhain. Nodwch eich barn am y cynnig hwn os gwelwch yn dda.

This is required
Question 9.

Dywedwch wrthym am unrhyw gyfleoedd ar gyfer gweithio’n agosach â’r gymuned a/neu bartneriaid statudol a’r trydydd sector a fydd yn ein helpu â’n nodau i gefnogi pobl ifanc yn Sir y Fflint.

Question 10.

Dywedwch wrthym am unrhyw beth arall y dylem ni ei wneud i sicrhau ein bod yn cefnogi pobl ifanc Sir y Fflint yn effeithiol. Gall hyn gynnwys unrhyw gefnogaeth/hyfforddiant sydd ei angen ar staff, partneriaid a rhieni/gofalwyr.