2. Ymgynghoriad Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint â staff a’r gymuned

0%

1. Cyflwyniad
Page 1 of 2

Mae Darpariaeth Ieuenctid Integredig Cyngor Sir y Fflint yn cynllunio ein gwasanaethau ar gyfer pan fydd y cyfnodau clo wedi dod i ben ac ar ôl 2024. Rydym yn cynnig:

(a) cadw a datblygu rhagor o wasanaethau ar-lein ac o bell ar gyfer pobl ifanc

(b) dwysau ein gwaith partneriaeth i gefnogi pobl ifanc mewn lleoliadau y maent eisoes yn ymweld â hwy

(c) ail-ddechrau darpariaeth clwb ieuenctid mwy cynaliadwy pan fydd y canllawiau COVID-19 yn caniatáu hynny a throsglwyddo rheolaeth 8 adeilad i ysgolion a sefydliadau cymunedol. 

Mae arnom ni eisiau gwybod eich barn, a lle bo hynny’n berthnasol, sut y gallwch chi neu eich gwasanaeth gyfrannu at y cynigion hyn.  Caiff y broses o weinyddu a darparu’r arolwg hwn ei chwblhau’n annibynnol. Dim ond ar gyfer cwestiynau 1, 8 a 9 y bydd y gwaith dadansoddi ac adrodd yn nodi enw’r sefydliad. Unwaith y bydd yr adroddiadau wedi’u cwblhau, bydd y data yn cael ei ddinistrio. Mae 9 cwestiwn ac ni fydd yr arolwg yn cymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau. Llenwch yr holiadur erbyn 12 Chwefror 2021 os gwelwch yn dda. Diolch!
 

1. Pa un o’r canlynol sy’n eich disgrifio chi orau? (os oes mwy nag un o’r rhain yn wir amdanoch chi, ticiwch bob un sy’n berthnasol)* *

 

2. Ym mha un o’r lleoliadau canlynol ydych chi?

 

3. Beth yw'r 2-3 mater blaenoriaeth i bobl ifanc Sir y Fflint sydd angen cefnogaeth?

 

4. Pa gyfleoedd a materion mae pobl ifanc fwyaf angen cymorth â hwy gan ein gweithwyr ieuenctid a chwarae yn y cyfnod hwn?

Pwysig iawnPwysigDdim yn bwysig iawnDdim yn bwysig o gwblDdim yn gwybod
Bod yn ffynhonnell ar gyfer gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc
Gwybodaeth a chyngor am gyffuriau ac alcohol
Rhoi cyfle i bobl ifanc wneud rhywbeth gwahanol
Rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu rhywbeth newydd
Rhoi cyfle i bobl ifanc gyfarfod â mwy o bobl ifanc sy’n debyg iddyn nhw e.e. siaradwyr Cymraeg, pobl ifanc anabl, pobl ifanc LGBTQ+
Rhoi cyfle i bobl ifanc ymlacio/cael seibiant
Gwybodaeth a chyngor am iechyd rhywiol
Cymorth â thai
Cymorth â gwaith ysgol/coleg/dod o hyd i swydd
Cefnogi pobl ifanc sy’n profi pryder a straen e.e. teimlo’n bryderus, teimlo’n unig, hunan-niweidio
Cefnogi pobl ifanc sy’n cael problemau yn yr ysgol â phobl ifanc eraill e.e. bwlio, pwysau gan gyfoedion
Cefnogi pobl ifanc sy’n cael problemau gyda’r teulu/yn eu cartref
Cefnogi pobl ifanc sy’n cael problemau gydag athrawon a gwaith ysgol e.e. cael eu gwahardd, mynd i drwbl, straen arholiadau
Cefnogi pobl ifanc i deimlo’n fwy hyderus e.e. delwedd corff, pwysau gan gyfoedion
Cefnogi pobl ifanc i aros yn ddiogel e.e. diogelwch ar y we, perthnasoedd iach, aros yn ddiogel yn y gymuned
 

5. Gosodwch y gweithgareddau FIYP amrywiol canlynol ar gyfer pobl ifanc yn ôl trefn eu pwysigrwydd yn eich barn chi.

 

6. Rydym wedi cynyddu ein hymgysylltiad digidol ac o bell â phobl ifanc a staff yn ystod 2020. Mae hyn yn cynnwys clybiau ieuenctid ar-lein (cyffredinol a pherthnasol i gymunedau sydd â diddordeb cyffredin), cyfarfodydd Cyngor Yr Ifanc, tudalen Facebook Darpariaeth Ieuenctid Integredig, gwaith 1:1 a grŵp â phobl ifanc a chyfarfodydd a hyfforddiant i staff. Mae gwaith polisi wedi’i gwblhau i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn ddiogel gan ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i staff. Rydym yn bwriadu cynnal a datblygu hyn ymhellach. Nodwch eich barn am y cynnig hwn os gwelwch yn dda.

 

7. I gyd-fynd â thraddodiad lleol o waith partneriaeth cryf a chyfarwyddyd polisi Llywodraeth Cymru, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a gwasanaethau eraill megis Aura, Gwasanaethau Tai a Phlant i sicrhau bod gweithwyr ieuenctid ar gael mewn lleoliadau y mae Pobl Ifanc yn eu mynychu. Rydym yn cynyddu ein cefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddigartrefedd, hunan-niweidio a chael eu gwahardd o’r ysgol. Rydym yn bwriadu cynnal a datblygu hyn ymhellach. Nodwch eich barn am y cynnig hwn os gwelwch yn dda.

 

8. Pan fydd y canllawiau COVID yn caniatáu, rydym yn cynnig cynnal clybiau ieuenctid rheolaidd eto yng Nghei Connah, y Fflint, Maes Glas, Coed-Llai, Mancot a Sandycroft, Penyffordd, Saltney a Sealand. Byddwn hefyd yn datblygu darpariaeth newydd yn Hwb Cyfle gan nad yw Deeside ar gael i ni mwyach. Nid oes gennym ddigon o gyllideb i dreulio amser ac arian yn rheoli adeiladau nad ydym yn eu defnyddio, megis yr Wyddgrug, neu adeiladau nad ydym yn cael digon o ddefnydd ohonynt, megis Penyffordd, felly byddwn yn ystyried ysgolion a sefydliadau cymunedol sydd â diddordeb mewn rheoli’r rhain. Nodwch eich barn am y cynnig hwn os gwelwch yn dda.

 

9. Dywedwch wrthym am unrhyw gyfleoedd ar gyfer gweithio’n agosach â’r gymuned a/neu bartneriaid statudol a’r trydydd sector a fydd yn ein helpu â’n nodau i gefnogi pobl ifanc yn Sir y Fflint.

 

10. Dywedwch wrthym am unrhyw beth arall y dylem ni ei wneud i sicrhau ein bod yn cefnogi pobl ifanc Sir y Fflint yn effeithiol. Gall hyn gynnwys unrhyw gefnogaeth/hyfforddiant sydd ei angen ar staff, partneriaid a rhieni/gofalwyr.

Use our survey software to create your survey.