Cynhelir cynhadledd rithiol Wythnos Hinsawdd Cymru rhwng dydd Llun, 11 Tachwedd a dydd Gwener, 15 Tachwedd 2024.
Thema eleni: Addasu i’n hinsawdd sy’n newid
Diolch am eich diddordeb mewn cynnal sesiwn cynhadledd rithiol. Cwblhewch y ffurflen hon gyda gwybodaeth amlinellol am eich syniad sesiwn arfaethedig.
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio gan dîm Wythnos Hinsawdd Cymru i asesu a ellir sicrhau bod slot sesiwn addas ar gael o fewn y rhaglen.
Mae manylion ynglŷn â’r is-themâu dyddiol a’r trawstoriad pynciau yr ydym yn eich annog i’w trafod i’w gweld ar dudalen Cynhadledd Rithiol ein gwefan.
Pan fyddwch wedi derbyn cadarnhad y gellir cynnwys eich sesiwn o fewn y rhaglen, bydd y disgrifiad byr a ddarparwyd gennych yn y ffurflen gais hon yn cael ei ddefnyddio i'w gynnwys yn rhaglen y gynhadledd rithiol a gyhoeddwyd. Os hoffech olygu disgrifiad eich sesiwn yn ddiweddarach, yna gellir trefnu hyn drwy gysylltu â thîm Wythnos Hinsawdd Cymru.
Ar waelod y dudalen, mae gennych yr opsiwn i “gadw a pharhau yn nes ymlaen”, defnyddiwch pan fo angen. Wrth lenwi'r ffurflen gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r botymau “tudalen nesaf” a “tudalen flaenorol” ar gyfer llywio er mwyn osgoi colli unrhyw wybodaeth sydd eisoes wedi'i gwblhau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn llenwi’r ffurflen hon, anfonwch e-bost atom yn walesclimateweek@freshwater.co.uk