Holiadur ar unigolyn - adolygiad cyflym hwn o Raglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru
1.
Croeso
0%
Diolch ichi am eich diddordeb mewn cymryd rhan yn yr adolygiad cyflym hwn o Raglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru.
Nod y prosiect hwn yw:
Asesu dyluniad a darpariaeth y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol
Deall pa mor dda mae'r rhaglen yn cefnogi cydlyniant cymunedol ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, a
Dod o hyd i wersi i'w dysgu ar gyfer gwella'r rhaglen.
Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn darparu adroddiad i Lywodraeth Cymru.
Holiadur ar gyfer unigolion amrywiol yng Nghymru yw hwn.
Rydym yn awyddus i glywed gan:
Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Pobl croenliw
Pobl sy’n profi hiliaeth
Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
Pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys:
Pobl â nam symudedd. Er enghraifft, defnyddwyr cadair olwynion neu bobl â chyflyrau iechyd sy’n effeithio ar gerdded.
Pobl â nam ar y synhwyrau. Er enghraifft, Pobl Ddall, Byddar neu â nam ar y clyw.
Pobl â namau / anableddau dysgu. Er enghraifft, pobl awtistig a niwroamrywiol neu bobl â dyslecsia, dyspracsia neu Syndrom Downs.
Pobl â nam gwybyddol. Er enghraifft, pobl â dementia neu hydroseffalws.
Pobl a chanddynt waeledd iechyd meddwl, neu sy’n profi trallod emosiynol. Er enghraifft, pobl sy’n profi pryder, pobl sydd ag iselder, neu bobl sydd â sgitsoffrenia.
Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Er enghraifft, HIV, diabetes neu MS.
Pobl Lesbaidd, Hoyw, a Deurywiol
Pobl anrhywiol
Pobl hŷn dros 50 mlwydd oed
Pobl ifanc dan 25
Pobl gyda gwahanol grefyddau a chredoau a phobl heb grefydd neu gred
Gofalwyr (pobl sy’n rhoi gofal di-dâl neu’n cefnogi ffrind neu aelod o’r teulu)
Merched a dynion
Pobl rhyngrywiol
Pobl draws a phobl anneuaidd
A phobl o wahanol grwpiau neu ddosbarthiadau economaidd gymdeithasol
Os ydych chi’n cynrychioli sefydliad o’r sector cyhoeddus neu os mai ymarferwr cydlyniant cymunedol ydych chi, cliciwch yma:
Cymraeg:
https://www.smartsurvey.co.uk/s/YZXS6O/
Saesneg:
https://www.smartsurvey.co.uk/s/N6158V/
Os ydych chi’n cynrychioli sefydliad trydydd sector neu grŵp cymunedol, cliciwch yma:
Cymraeg:
https://www.smartsurvey.co.uk/s/XIL8DK/
Saesneg:
https://www.smartsurvey.co.uk/s/K0ECIG/
Nid oes rhaid ichi ateb bob cwestiwn. Cewch hepgor unrhyw gwestiwn y teimlwch na allwch wneud sylwadau arno. Fodd bynnag, po fwyaf o wybodaeth sydd gennym, po fwyaf y byddwch yn ein helpu i adolygu Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru.
Nid ydym yn gofyn am eich enw nac enw eich sefydliad. Mae'r holiadur hwn yn ddienw.
Pan fyddwn yn llunio'r adroddiad interim, cewch adolygu a gwneud sylwadau ar yr adroddiad hwnnw neu rannu unrhyw farn arall sydd gennych bryd hynny. Gan nad ydym yn casglu eich enw na'ch manylion cysylltu yn yr holiadur hwn, allwn ni mo'ch cynnwys yn yr adolygiad hwnnw oni bai eich bod yn cysylltu â ni ac yn dweud wrthym eich bod yn dymuno cael eich cynnwys.
Os hoffech gael copi o'r adroddiad interim, anfonwch ebost atom os gwelwch yn dda:
research@diverse.cymru
Diolch yn fawr
Roedd gwall ar eich tudalen. Cywirwch unrhyw feysydd gofynnol a chyflwynwch eto.
Ewch at y gwall cyntaf.
Powered by
SmartSurvey
Javascript Required
Javascript is required for this survey to function, please enable through your browser settings, then refresh.