2. Ymgynghoriad Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint â staff a’r gymuned
Mae Darpariaeth Ieuenctid Integredig Cyngor Sir y Fflint yn cynllunio ein gwasanaethau ar gyfer pan fydd y cyfnodau clo wedi dod i ben ac ar ôl 2024. Rydym yn cynnig:
(a) cadw a datblygu rhagor o wasanaethau ar-lein ac o bell ar gyfer pobl ifanc
(b) dwysau ein gwaith partneriaeth i gefnogi pobl ifanc mewn lleoliadau y maent eisoes yn ymweld â hwy
(c) ail-ddechrau darpariaeth clwb ieuenctid mwy cynaliadwy pan fydd y canllawiau COVID-19 yn caniatáu hynny a throsglwyddo rheolaeth 8 adeilad i ysgolion a sefydliadau cymunedol.
Mae arnom ni eisiau gwybod eich barn, a lle bo hynny’n berthnasol, sut y gallwch chi neu eich gwasanaeth gyfrannu at y cynigion hyn. Caiff y broses o weinyddu a darparu’r arolwg hwn ei chwblhau’n annibynnol. Dim ond ar gyfer cwestiynau 1, 8 a 9 y bydd y gwaith dadansoddi ac adrodd yn nodi enw’r sefydliad. Unwaith y bydd yr adroddiadau wedi’u cwblhau, bydd y data yn cael ei ddinistrio. Mae 9 cwestiwn ac ni fydd yr arolwg yn cymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau. Llenwch yr holiadur erbyn 12 Chwefror 2021 os gwelwch yn dda. Diolch!
There was an error on your page. Please correct any required fields and submit again. Go to the first error