Strategaeth ddrafft iechyd meddwl a llesiant meddyliol: fersiwn i blant a phobl ifanc
Diolch am ymateb i'r ymgynghoriad Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso'r botwm "anfon" ar ddiwedd y ffurflen, fel arall ni fydd eich ymateb yn cael ei gyfrif.
I'w defnyddio gyda'r fersiwn i blant a phobl ifanc.
Mae'r ffurflen hon ar gyfer plant a phobl ifanc (hyd at 25 oed) yn unig. Os ydych chi dros 25 oed defnyddiwch y ffurflen ymateb ar-lein neu lawrlwytho y ffurflen ymateb hawdd ei ddeall.
Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno mai dyma sut le dylai Cymru fod yn y dyfodol? Mae pobl yn byw mewn cymunedau sydd:
- yn hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl a llesiant
- yn rhoi'r pŵer iddyn nhw wella eu hiechyd meddwl a'u llesiant
- yn rhydd o stigma a gwahaniaethu
Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â’r deg egwyddor?
- mae cymorth yn seiliedig ar eich hawliau
- mae cymorth ar gyfer pob oedran
- mae cymorth yn rhoi pobl a'u hanghenion yn gyntaf
- mae cymorth yn helpu i hyrwyddo tegwch mynediad, profiadau a chanlyniadau
- mae cymorth yn gweithio gyda’i gilydd a does dim 'drws anghywir'. Mae'n cysylltu gyda’i gilydd ac yn agored i bawb.
- darperir cymorth gan weithlu medrus
- mae cymorth yn edrych ar bopeth sy'n effeithio ar iechyd meddwl
- mae cymorth yn deall trawma
- mae cymorth yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau
- mae cymorth yn camu i mewn yn gyflym
Mae 4 nod yn y strategaeth. Rydym ni eisiau gwybod beth rydych chi'n ei feddwl ohonyn nhw. Dim ond y cwestiynau sydd o ddiddordeb i chi sydd angen i chi eu hateb.