Iaith:

Strategaeth ddrafft atal hunanladdiad a hunan-niweidio

 
Diolch am ymateb i'r ymgynghoriad strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso'r botwm "anfon" ar ddiwedd y ffurflen, fel arall ni fydd eich ymateb yn cael ei gyfrif.

Cwestiwn 1: I ba raddau rydych chi’n cytuno â’r weledigaeth hon?
“Bydd pobl yng Nghymru yn byw mewn cymunedau heb yr ofn a’r stigma sy’n gysylltiedig â hunanladdiad a hunan-niweidio – cymunedau sy’n cael eu grymuso a’u cefnogi i geisio a chynnig cymorth yn ôl yr angen.”

 

Cwestiwn 1a: Beth yw eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1?

 

Cwestiwn 2: Yn yr adran gweledigaeth strategol mae 6 egwyddor sy'n sail i'r strategaeth. Ydych chi’n cytuno mai’r egwyddorion hyn yw’r rhai cywir?

 

Cwestiwn 2a: Beth yw eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 2?

 

Cwestiwn 3: Mae'r strategaeth yn nodi grwpiau blaenoriaeth a grwpiau risg uchel. Ydych chi'n cytuno bod y rhain yn gywir?

 

Cwestiwn 3a: Beth yw eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 3?

 
Mae chwe amcan lefel uchel yn y strategaeth. Rydym hefyd wedi awgrymu is-amcanion i gyflawni pob un. Byddwn yn cyhoeddi cynlluniau cyflawni 3-5 mlynedd a fydd yn cyd-fynd â'r strategaeth. Bydd y Cynllun Cyflawni yn cynnwys camau manylach i gyflawni ein hamcanion. Byddem yn hoffi gwybod:
  • beth ydych chi’n ei feddwl o’r amcanion
  • ydych chi'n meddwl y bydd yr is-amcanion yn cyflawni'r amcanion lefel uchel
  • pa gamau, yn eich barn chi, fyddai modd eu cynnwys yn y Cynllun Cyflawni i gyflawni’r amcanion
Gallwch ateb cwestiynau am gynifer o'r datganiadau ag sydd o ddiddordeb i chi.