Iaith:

Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd

 

C1a. Ydych chi’n ateb drosoch eich hun neu ar ran sefydliad? *

 

C1b. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch enw eich sefydliad. Yna ewch i gwestiwn 14.

 

C2. Pa un o’r canlynol yw’r disgrifiad gorau o’ch rhywedd?

 

C3. Nodwch eich oedran

 

C4. A oes gennych unrhyw amhariadau corfforol neu feddyliol sydd wedi para neu y disgwylir iddynt bara 12 mis neu fwy?

 

C5. A yw unrhyw rai o’ch amhariadau yn effeithio ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol?

 

C6. Faint o bob un o’r grwpiau canlynol sydd yn eich cartref? (Cofiwch gynnwys eich hun)

 

C7. Sut fyddech chi’n disgrifio’r ardal lle’r ydych yn byw? A fyddech chi’n ei disgrifio fel ardal drefol neu ardal wledig? Dewiswch un

 

C8. Ydych chi neu unrhyw un arall yn eich cartref yn berchen ar gar neu fan, neu yn defnyddio car neu fan yn rheolaidd?

 

C9. Pa rai o’r dulliau teithio fyddwch chi’n eu defnyddio? Ticiwch bob un sy’n berthnasol.

 

C10. Wrth feddwl am y lle’r ydych yn byw, ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau isod?
 

Anghytuno’n gryfAnghytunoDdim yn cytuno nac yn anghytunoCytunoCytuno'n gryf
Yn gyffredinol, mae ceir neu gerbydau eraill yn cael eu gyrru’n rhy gyflym.
Mae ceir neu gerbydau eraill yn cael eu gyrru’n rhy gyflym ger ysgolion.
Yn gyffredinol, mae ceir neu gerbydau eraill yn cael eu gyrru ar gyflymder diogel mewn ardaloedd lle mae llawer o gerddwyr.
Mae ceir neu gerbydau eraill sydd wedi eu parcio ar balmentydd yn berygl i ddiogelwch.
Mae ffyrdd lle rydw i’n byw yn ddiogel i feicwyr eu defnyddio.
Mae’r plant yn ddiogel wrth groesi’r ffyrdd lle rydw i’n byw.
Lle rydw i’n byw, does dim digon o lonydd a llwybrau beicio.
Rydw i’n teimlo’n ddiogel yn croesi’r ffordd lle rydw i’n byw.
Rydw i’n poeni am ddiogelwch aelodau eraill o’r teulu pan fyddant yn cerdded, beicio, neu ar olwynion yn lle rydym ni’n byw.
Nid yw’n hawdd i bobl anabl ddefnyddio’r ffyrdd a’r palmentydd lle rydw i’n byw.
Poeni am bobl ddim yn gwisgo eu gwregys diogelwch mewn ceir.
Mae ffyrdd nad ydynt yn cael eu cynnal yn dda yn achosi risgiau o ran diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd.
Mae goleuadau stryd gwael yn broblem diogelwch ar y ffyrdd.
Mae pobl sy’n defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru yn broblem diogelwch ar y ffyrdd.
Mae pobl sy’n gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn broblem diogelwch ar y ffyrdd.
 

C11:  Pa mor ddiogel neu anniogel ydych chi’n ei deimlo wrth wneud pob un o’r canlynol?

Rydw i’n teimlo’n ddiogel iawnRydw i’n teimlo’n ddiogelRydw i’n teimlo’n anniogelRydw i’n teimlo’n anniogel iawnDdim yn berthnasol / Dydw i ddim yn defnyddio’r dull hwn o deithio
Cerdded
Beicio
Defnyddio cadair olwyn
Marchogaeth ceffyl
Defnyddio sgwter symudedd
Gyrru car
Teithio ar fws
Reidio beic modur
 

C12: Pa wahaniaeth y byddai’n ei wneud i chi yn bersonol pe bai’r ffyrdd yn teimlo’n fwy diogel – a fyddai’n eich gwneud yn fwy tebygol i wneud y canlynol…?

ByddaiNa fyddaiDdim yn gwybodAmherthnasol / Ddim yn gwneud hyn
Cerdded mwy
Gyrru mwy
Beicio neu sgwtera mwy
Mynd o gwmpas ar fy nghadair olwyn yn fwy aml
Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach
Defnyddio fy Sgwter Symudedd/Cadair Bŵer Dosbarth 2/3 yn amlach
Gwneud rhywbeth arall
 

C13. Ydych chi erioed wedi cael eich anafu mewn gwrthdrawiad ar y ffordd, un ai fel gyrrwr, beiciwr neu gerddwr?

 

C13a. Oeddech chi yn teimlo eich bod wedi cael cymorth digonol?

 

C13b. Os na chawsoch gymorth digonol, sut gallai fod wedi bod yn well?

 

C14. A ydych chi’n teimlo y dylid gwneud mwy i wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel?

 

C14a. Pa un o’r rhesymau hyn sy’n egluro pam yr ydych o’r farn y dylid gwneud mwy i wneud ffyrdd Cymru’n fwy diogel?
Dewiswch bob un sy’n berthnasol
 

 

C14b. A pha un yw’r prif reswm?

 

C15. Yn eich barn chi, pa rai o’r canlynol fyddai’n gwneud ffyrdd yn fwy diogel i holl ddefnyddwyr y ffordd, sef gyrwyr, beicwyr, cerddwyr a defnyddwyr eraill? Dewiswch eich tri uchaf

 

C16. Beth arall y gellid ei wneud i annog holl ddefnyddwyr y ffordd i ymddwyn yn ddiogel ac yn gyfrifol?

 

C17. Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw pob un o’r ffactorau canlynol o ran gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb?

Ddim yn bwysig o gwblDdim yn bwysigDdim yn ddibwys nac yn bwysigPwysigPwysig iawnDdim yn gwybod
Dealltwriaeth defnyddwyr ffyrdd o reolau’r ffyrdd
Ymrwymiad defnyddwyr ffyrdd i reolau’r ffyrdd
Pobl yn parchu ei gilydd ar y ffyrdd
Cynllun ffyrdd (gan gynnwys palmentydd a lonydd beicio)
Gorfodi rheolau’r ffyrdd, gan yr heddlu er enghraifft
Cynllun cerbydau a thechnoleg cerbydau
Deddfwriaeth gryfach
Digon o le i bob math o ddefnyddwyr ffyrdd
Terfynau cyflymder
Cynnal a chadw ffyrdd
Digon o fannau croesi diogel i gerddwyr
Palmentydd heb rwystrau
 

C18. Yn eich barn chi, faint o gyfrifoldeb sydd gan y canlynol o ran gwneud y ffyrdd yn ddiogel i bawb?  

Llawer o gyfrifoldebRhywfaint o gyfrifoldebYchydig o gyfrifoldebDim cyfrifoldeb o gwblDdim yn gwybod
Fi fy hun fel unigolyn
Eich cyngor lleol
Yr Heddlu
Y Gwasanaeth Tân ac Achub
Modurwyr/gyrwyr
Pobl sy’n cerdded
Pobl sy’n beicio
Marchogion
Llywodraeth Cymru
Gwneuthurwyr cerbydau
Hyfforddwyr gyrru /arholwyr gyrru
Llywodraeth y DU (Yr Adran Drafnidiaeth)
Ysgolion/colegau
Arall
 

C19. A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu?