Iaith:

Strategaeth ddrafft iechyd meddwl a llesiant meddyliol

 
Diolch am ymateb i'r ymgynghoriad Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso'r botwm "anfon" ar ddiwedd y ffurflen, fel arall ni fydd eich ymateb yn cael ei gyfrif.

Cwestiwn 1: I ba raddau ydych chi'n cytuno bod y datganiad canlynol yn nodi gweledigaeth gyffredinol sy'n gywir i Gymru?

“Bydd pobl yng Nghymru yn byw mewn cymunedau sy’n eu hannog, yn eu cefnogi ac yn eu grymuso i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant meddyliol, a hynny heb stigma a gwahaniaethu. Byddwn yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau er mwyn sicrhau bod gan bawb yr iechyd meddwl gorau posibl. Bydd system gymorth gysylltiedig ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector ac yn ehangach, lle gall pobl gael gafael ar y gwasanaeth cywir, ar yr adeg gywir, ac yn y lle cywir. Bydd gofal a chymorth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn dosturiol ac yn rhoi’r ffocws ar adferiad, gyda phwyslais ar wella ansawdd, diogelwch a mynediad. Bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu gan weithlu sy’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac sydd â’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i ddiwallu anghenion amrywiol pobl Cymru.”

 

Cwestiwn 1a: Beth yw eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1?

 

Cwestiwn 2: Yn y cyflwyniad, rydym wedi nodi deg egwyddor sy'n sail i'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol newydd. Ydych chi’n cytuno mai’r egwyddorion hyn yw’r rhai cywir?

 

Cwestiwn 2a: Beth yw eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 2?

 
Yn y strategaeth, mae gennym nifer o adrannau sy'n cael eu llywio gan bedwar datganiad o weledigaeth allweddol. Mae'r pedwar datganiad o weledigaeth hyn yn cynrychioli ein nodau cyffredinol. Hoffem wybod eich barn am bob un ohonynt. Gallwch ateb cwestiynau am gynifer o'r datganiadau ag sydd o ddiddordeb i chi.